Parisa Fouladi yn archwilio ystyr ysbrydol y lleuad ddu

Mae’r gantores Parisa Fouladi ar fin rhyddhau ei sengl unigol ddiweddaraf. 

‘Lleuad Du’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Piws. 

Artist Cymreig Iranaidd o Gaerdydd yw Parisa  Fouladi ac mae’n rhestru Soul, Neo-Soul a churiadau hip-hop minimal ymysgy ei phrif ddylanwadau cerddorol. Bydd ei henw hefyd yn canu cloch i lawer fel aelod  o’r band pob siambr, Derw . 

Mae Parisa ar ganol ysgrifennu ei EP cyntaf, fydd yn barod i’w rhyddhau flwyddyn nesaf.

Mae ‘Lleuad Du’ yn dilyn llwyddiant senglau blaenorol Parisa, sef ‘Siarad’, ‘Achub Fi‘ a ‘Cysgod yn y Golau‘ sydd wedi cael ymateb da ar gyfryngau amrywiol. Yn gynharach eleni, perfformiodd Parisa ei chân ‘Achub Fi’ ar ddarllediad byw cyngerdd Cymru Wcráin.

Ystyr ysbrydol y lleuad ddu

Cyfansoddodd Parisa’r gân ‘Lleuad Du’ ar gitâr acwstig mewn carafán yn y Gogledd ar ddiwrnod glawog. Aeth Parisa ymlaen wedyn i gydweithio ag offerynnwr a chyfansoddwr, Charlie Piercey, cyn cyflwyno’r trac i’r cynhyrchydd Krissie Jenkins (Super Furry Animals, Gruff Rhys, Cate Le Bon).

Gydag alaw lleisiol deimladwy a chryf, wedi’i gosod dros guriadau hip-hop esmwyth, mae Parisa yn archwilio ystyr ysbrydol y lleuad ddu yn ei sengl ddiweddaraf. 

Mae cyfnod y lleuad ddu yn cael ei ystyried yn adeg o synfyfyrio’n dawel a chanolbwyntio ar yr enaid, yn ogystal â gosod amcanion. Mae’r teimladau a’r emosiynau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y gân. Credir bod lleuad newydd yn plannu syniadau ac yn ennyn ysbrydoliaeth i wireddu amcanion. Mae cyfnod y lleuad ddu yn gyfle i ddatblygu ar y bwriadau a’r syniadau hynny. Mae’r lleuad ddu yn adeg delfrydol i ffurfio a mynegi dyheadau. 

Yn y gân, mae’r lleuad ddu yn cynrychioli posibiliadau di-bendraw. Mae’r gân iasol a phwerus hon yn mynd â’r gwrandäwr ar daith i ganfod gobaith a golau newydd. 

Gobaith Parisa yw y bydd y gân yn ysbrydoli pobl, yn rhoi’r nerth iddyn nhw gredu yn eu hunain ac yn y ddynoliaeth, ac i greu byd gwell i helpu ein brodyr a’n chwiorydd sy’n dioddef ledled y byd. Mae’r gân yn cynrychioli undod ac ailddarganfod ffydd yn y ddynoliaeth. Mae’n gobeithio bydd y gân yn annog y gwrandäwr i edrych yn ddwfn ynddyn nhw eu hunain ac i’r bydysawd. 

Dyma Parisa Fouladi yn perfformio’r sengl fel rhan o sesiwn fyw yn Mission Gallery, Abertawe yn ddiweddar: