Mae’r triawd gwerin, Plu, wedi dychwelyd gyda sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 25 Mawrth.
‘Storm dros Ben-y-Fâl’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi’i ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth a dyma gynnyrch cyntaf y grŵp ers peth amser.
Yn wir, dyma’r gân wreiddiol gyntaf i’r triawd ryddhau ers ei halbwm diwethaf, ‘Tir a Golau’, a ryddhawyd nôl yn 2015.
Y newyddion pellach ydy mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl newydd, a blas cyntaf o albwm nesaf y grŵp, ‘Tri’, a fydd yn cael ei ryddhau ym mis Ebrill 2022.
Bydd yr albwm newydd ar gael yn y siopau, mewn gigs ac ar safle Bandcamp yn y lle cyntaf, ac yna ar y llwyfannau digidol eraill arferol i fis Mehefin ymlaen.
Recordiwyd caneuon yr albwm dros gyfnod o ddwy flynedd yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes.
Cerddorion gwadd
Plu ydy’r triawd brawd a chwaer o Fethel ger Caernarfon, sef Gwilym Bowen Rhys a’i ddwy chwaer, Marged ac Elan Rhys.
Diolch i grant oddi-wrth Gronfa Nawdd Eos maent wedi gallu ychwanegu cyfraniadau gan gerddorion eraill wrth recordio’r albwm. Mae hyn yn cynnwys Carwyn William, Dafydd Owain ac Edwin Humphreys, sy’n ychwanegu offeryniaeth ehangach i sain acwstig arferol Plu.
Mae’r albwm yn cynnwys cyfuniad o ganeuon â naws Americana, rhai amgen ac atmosfferig, yn ogystal â tiwns gwerin-bop, i gyd â harmonïau cymhleth sy’n gysylltiedig â sain leisiol Plu.
Dyma fersiwn o’r sengl a recordiwyd ar gyfer Lŵp llynedd: