Mae’r grŵp pop amgen Rogue Jones wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Libertino.
‘Englynion Angylion’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sy’n ‘alwad ewfforig orymuso, rhyddhad a gwrthryfela’ yn ôl y grŵp ac yn esiampl o Rogue Jones yn “cysylltu â’u gwrach fewnol a chofleidio byd natur”.
Dechreuodd hon, sengl gyntaf y band o’u hail albwm, fel pennill gan Fiona Apple neu Kate Bush dan arweiniad y piano cyn cael ei thrawsnewid i The Loft yn Efrog Newydd y 70au gan ysbryd David Mancuso.
Fel y gerddoriaeth yr oedd Mancuso yn ei garu â’i chwarae, mae ‘Englynion Angylion’ yn llawn enaid, rhythm, a geiriau sy’n llawn gobaith ac achubiaeth.
Dychwelodd Rogue Jones, sef prosiect y pâr priod Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan, i’w hail gartref creadigol yn Stiwdios Tŷ Drwg i ddechrau gweithio ar ‘Englynion Angylion’ gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton.
Yn ymuno â nhw ar y recordiad mae’r cerddorion Llŷr Pari, neu ‘metronom Melin y Coed’, ar y drymiau a’r cymysgu, ac Elen Ifan ar y soddgrwth a Mari Morgan ar y ffidil disgo a gafodd eu recordio yng Nghaernarfon gan Gruff Ab Arwel.
Dyma gynnyrch gwreiddiol cyntaf Rogue Jones ers y sengl ddwbl ‘Human Heart / Gogoneddus yw y Galon’ a ryddhawyd ar ddiwedd 2016. Yn gynharach yn y flwyddyn honno, ryddhawyd eu halbwm cyntaf ‘VU’ ar label Recordiau Blinc.
Er hynny, bu iddynt ryddhau casgliad o ganeuon ‘VU’ wedi’u hail-gymysgu gan artistiaid amrywiol fel albwm yn ystod 2021, ac mae Bethan Mai wedi ryddhau cerddoriaeth yn unigol a gyda’r grŵp Kathod yn y cyfamser.
Mae Rogue Jones wedi denu tipyn o sylw diolch i’w sŵn amgen a pherfformiadau byw lliwgar gyda’r Guardian yn eu galw’n “fand swynol a hynod sy’n haeddu dilyniant cwlt”.
Y mae ‘Englynion Angylion’ yn orlawn o swyn ac yn sicr bydd cydnabyddiaeth haeddiannol i ddilyn.
“Englynion Angylion yw ein hymgais i wneud disgo cerddorfaol o’r 1970au, ond, fel popeth arall byddwn ni’n creu, gyda naws ychydig yn rhyfedd” eglura’r band.
“Pobl y wlad yn treial gwneud cerddoriaeth y ddinas” ac yn llwyddo i ddod â phalet enfys natur gyda nhw i oleuo’r strydoedd dinesig tywyllaf.
Mae fideo ardderchog ar gyfer y sengl sydd wedi’i gyfarwyddo gan Ynyr o’r band: