Sengl newydd Tapestri

Bydd Tapestri yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar ddydd Mercher 27 Gorffennaf ar label Recordiau Shimi. 

‘Sweet Memories’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd Americana sy’n dod a dwy gantores amlwg, Lowri Evans a Sera Zyborska ynghyd. 

Hon fydd trydedd sengl Tapestri gan ddilyn ‘Y Fflam / Open Flame’ a ryddhawyd yng Nghorffennaf 2020 ac yna ‘Arbed Dy Gariad / Save Your Love’ a ryddhawyd ym mis Hydref llynedd.

Mae’r grŵp yn tueddu i ryddhau fersiwn Gymraeg a Saesneg o’u caneuon, ac maent eisoes wedi ryddhau fersiwn Gymraeg ‘Sweet Memories’ yn mis Mehefin eleni, sef ‘Atgofion’.

Daw Sera Zyborska o Gaernarfon yn wreiddiol a Lowri Evans o Drefdraeth yn Sir Benfro ac mae’r ddwy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru fel artistiaid dwyieithog sydd wedi ysgrifennu, perfformio a recordio’n unigol dros sawl blwyddyn.

Rhyngddynt maent wedi cael eu hyrwyddo ar BBC 6 Music, Radio 2, wedi perfformio ym mhobman o ŵyl y Dyn Gwyrdd i Gŵyl Rhif 6, o King Tut’s yn Glasgow i’r Union Chapel; O Gymru i America i Ffrainc, sydd fel mae’n digwydd, lle bu’r ddwy yn cyfarfod am y tro cyntaf, wrth berfformio ym mhafiliwn Cymru yng ngŵyl Lorient yn Awst 2019.

Sbardunodd y cyfarfod cyntaf hwn syniad i ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o gerddoriaeth Americana; band â all berfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod.

Ysbrydolwyd ‘Sweet Memories’ gan hen fodryb Sera a symudodd i’r Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, byth i ddychwelyd i Gymru na gweld ei theulu eto. Mae’r gân yn ymdrin â phŵer ‘hiraeth’, tynfa’r môr, cysylltiad â’ch gwreiddiau a’r ymdeimlad o golled o fod ymhell o gartref.

Yn ystod haf 2022 byddant yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Werin Caergrawnt ynghyd â pherfformiadau mewn gwyliau a gigs eraill.

Bydd Tapestri yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Chwefror 2023 yn dilyn haf o gigs a senglau.