‘Long Time Ago’ yw sengl newydd ‘Woodooman’, yr artist aml-offerynnol o Gaerdydd, sef Iwan Ap Huw Morgan.
Dyma’r ail sengl o’r albwm ‘Y Nos’, sy’n cael ei ryddhau ar 24 Mehefin – mae ‘Long Time Ago’ yn ddilyniant i’r sengl ‘Y Nos Mewn Cariad’ a rhyddhawyd ym mis Mawrthi dderbyniad cynnes gan gynnwys camoliaeth gan DJ’s BBC Huw Stephens, Adam Walton, Lisa Gwilym, Rhys Mwyn, a God Is In The TV Blog, Cylchgrawn Golwg.
Bydd ‘Long Time Ago‘ yn cael ei rhyddhau ar yr 2 Mai drwy Recordiau Dewin Records.