Mae’r grŵp o Arfon, Worldub, wedi rhyddhau eu sengl, ‘Torri’.
Y ddau frawd, Cynyr a Dion Hamer ydy aelodau craidd Worldcub, ynghyd â Carwyn Ginsberg (sydd hefyd yn aelod o Hippies v Ghosts a Fauna Twin) ar y gitâr a Dion Wyn Jones (Alffa) ar y gitâr fas wedi ymuno’n fwy diweddar.
Tyfodd y grŵp o ludw CaStLeS – band a ffurfiwyd yn wreiddiol yn 2008, ac a fu’n un o artistiaid cynllun Gorwelion BBC Cymru yn 2016. Cyhoeddodd CaStLeS eu bod yn newid enw i Worldcub yn 2018.
Mae ‘Torri’ yn wibdaith hafaidd, kraut-roc fachog wedi’i drwytho ag offerynnau chwareus a harmonïau heintus.
Y newyddion da pellach ydy bod albwm ar y ffordd gan y band, ac maent wedi cyhoeddi mai ‘Back to the Beginning’ fydd enw’r record hir yma.
Mae’r albwm ar y gweill ers cryn amser i ddweud y gwir, gyda’r band yn aros am ddyddiad ryddhau ar gyfer y record 11 trac yn 2020 nes gorfod newid cynlluniau o ganlyniad i amgylchiadau anarferol y flwyddyn honno.
Nid ydynt wedi bod yn segur ers hynny, gyda’r grŵp yn mynd ati i recordio EP yn y cyfamser o’r enw ‘BTTB Cyfres 1 / Series 1’.
Gan weithio o dan yr un cysyniad â theitl yr albwm, aeth y band yn ôl i’w dechreuadau ac ail-weithio traciau o’u EP cyntaf, sef ‘PartDepart’. Y nod oedd ail-ddychmygu’r traciau mewn golau newydd wrth arddangos taith y band i’w sain cyfredol.
Mae eu sengl newydd, ‘Torri’, yn cael ei chodi o’r EP yma.