Sengl newydd yn flas o EP Georgia Ruth

Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Mercher diwethaf, 30 Mawrth.

‘25 Minutes’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist o Aberystwyth, a dyma’r blas cyntaf o’i EP newydd, ‘Kingfisher’, fydd yn cael ei ryddhau yn yr haf ar label Bubblerwap Collective.  

Ysbrydolwyd 25 Munud gan sgyrsiau a gafodd Georgia gyda ffrindiau yn ystod cyfnod y pandemig. 

“Mae’n fyfyrdod ar dreigl amser. Y pethau y gallem fod wedi eu colli, y pethau a wnaethom – neu na wnaethom – y pethau y buom yn aros yn rhy hir amdanynt, a’r pethau y gallem fod wedi’u cuddio” eglura Georgia. 

“Yn y gân, mae blynyddoedd yn toddi mewn amrantiad, a daw sylweddoliad y gallem fod wedi colli fersiynau ohonom ein hunain yn y cyfamser, heb sylwi. Pa mor hir?”

EP ar y ffordd

Mae’r pum cân ar EP nesaf Georgia, ‘Kingfisher’, yn ymdrin â hiraeth, amser a gollwyd, a phleser rhyfedd tristwch. 

Fe’i recordiwyd yn StudiOwz yn Sir Benfro yn Rhagfyr 2021, wedi’i pheiriannu gan Iwan Morgan a gyd-gynhyrchodd gyda Georgia, ac a fu’n gweithio ar ei halbwm diwethaf, ‘Mai’, hefyd. 

Ymhlith y cerddorion mae Stephen Black (Group Listening, Sweet Baboo) ac Iwan Huws, a gydag offerynnau taro ychwanegol gan Osian Williams, a threfniannau llinynnol gan Owain Roberts. 

Mae mab blwydd oed Georgia, Idris, yn ymddangos yng nghefndir rhai o’r caneuon hefyd, os y gwrandewch yn ddigon astud!

Does dim union ddyddiad rhyddhau ar gyfer yr EP eto, ond bydd hwn ynghyd â rhestr traciau llawn, yn cael eu datgelu’n fuan. 

Yn y cyfamser, mae nifer o gyfleoedd i weld Georgia’n perfformio’n fyw dros y gwanwyn, gan ddechrau y Tramshed Caedydd penwythnos diwethaf fel rhan o ŵyl 6music. Dyma’r dyddiadau gigs eraill i ddod:  

  • Neuadd y Frenhines Arberth – 20/05
  • Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – 26/05
  • The Gate, Caerdydd – 10/06
  • Pontio, Bangor – 11/06