Mae Serol Serol wedi rhyddhau sengl newydd fydd yn ymddangos ar yr albwm i ddathlu pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed yn hwyrach yn y flwyddyn.
‘Chwalu’r Hud’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp o Ddyffryn Conwy sydd allan ers dydd Gwener 25 Mawrth.
Un o brosiectau y ddau feistr cerddorol Llŷr Pari a George Amor yw Serol Serol, gyda’r ddwy gyfnither – Mali Siôn a Leusa Rhys yn ffryntio’r band.
Cywaith sydd unwaith eto’n rhoi rheswm i ni gredu’n gryf fod yna rywbeth yn y dŵr yn Nyffryn Conwy pan mae’n dod at ysgrifennu tiwns, yn enwedig os ydyn nhw’n rhai seicadelic.
Mae ‘Chwalu’r Hud’ yn drac offerynnol sci-fi, dystopaidd sy’n llwyddo i hypnoteiddio’r gwrandawyr gyda’i themâu ailadroddus, ac na fyddai allan o’i le yn gefndir i olygfeydd ar raglen fel Stranger Things.
Wrth i’r trac dynnu tua’r terfyn, clywn Mali yn darllen y gerdd ‘Y Werin’ gan T. E. Nicholas sy’n cynnwys y geiriau ‘chwalu’r hud’, ac mae’r cyfan yn ychwanegu rhagor o ias oer a thywyll i lawr y madruddyn.
Bydd y trac yn ymddangos ar y casgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid label I KA CHING a fydd yn cael ei ryddhau ar 20 Mai 2022.