Mae’r grŵp gwych a gwallgof, Rogue Jones, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n ddehongliad amgen o un o faterion llosg mwyaf Cymru yn y 1980au a 90au.
‘Triongl Dyfed’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan yn ddigidol ar label Recordiau Libertino.
Mae teitl y trac yn cyfeirio ar yr ardal hwnnw o orllewin Cymru lle gwelwyd sawl UFO yn y 1970au a’r 1980au.
Cysyniad canolog y gân yw damcaniaeth ddychmygol fod ymosodiadau bwriadol Meibion Glyndŵr i losgi bythynnod gwyliau wedi’u cyflawni gan estroniaid.
Yn cael ei chanu yn bennaf o safbwynt yr estroniaid – mae’r gân yn benthyg o ‘Mae Gen i Het Tri Chornel’, yn dyfynnu cân y rocwyr o’r 1970au Edward H Dafis, ‘Mae’n Braf Cael Byw Mewn Tŷ Haf’, ac yn enwi’r canwr ac actor chwedlonol Bryn Fôn, a gafodd ei arestio ar gam ar amheuaeth o fod yn aelod o Meibion Glyndwr, yn ogystal ag Owain Glyndŵr ei hun.
Roedd Edward H a Bryn Fôn ill dau yn barod iawn i ganiatáu’r band i gyfeirio atynt – ond mae tawelwch Owain Glyndŵr ar y mater yn fyddarol yn ôl y band!
Fel albwm cyfan Rogue Jones, recordiwyd y sengl yn Stiwdios Tŷ Drwg, Grangetown gyda Frank Naughton ac mae’n cynnwys perfformiadau gan Llŷr Parri ar y drymiau a Harri Rees ar y clarinet gyda phopeth arall yn cael ei berfformio gan Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan, sef aelodau craidd Rogue Jones.
“Rydym yn credu bod yr argyfwng ail gartrefi yng Nghymru yn wirion bost ac rydym yn credu y dylai’r llywodraeth ymyrryd i atal prisiau tai rhag codi mor ddramatig ac i ganiatáu i bobl ifanc gafodd eu magu yn yr ardal fedru brynu tŷ fforddiadwy lle maen nhw’n byw” meddai Rogue Jones.
Er hynny, mae’r band yn mynnu na ddylid camddehongli’r geiriau, ac yn bendant nid yw Rogue Jones yn awgrymu mai llosgi ail gartrefi yw’r peth iawn i’w wneud – yn syml, cân yw hon am estroniaid yn dod i lawr o’r gofod i losgi tai haf.