Siddi ydy’r grŵp diweddaraf i ryddhau sengl fel rhan o’r casgliad i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
‘Mabli’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd brawd a chwaer, Osian a Branwen Williams, ac fe’i rhyddhawyd ar ddydd Gwener 15 Ebrill.
Mae’r sengl newydd yn dilyn sengl arall ddiweddar, ‘Matholwch’, a ryddhawyd gan Siddi ym mis Tachwedd 2021, lle gwelwyd y ddeuawd yn cydweithio â chantores o Awstralia, Siobhan Owen.
Mae Branwen ac Osian yn aelodau o fandiau prysur eraill, ond mae ganddynt ddau albwm i’w henw fel Siddi, prosiect sy’n dwyn ysbrydoliaeth o gerddoriaeth werinol, Americana ei naws.
Er mai llais Branwen sydd i’w glywed gan amlaf ar ganeuon Siddi, Osian sy’n canu ‘Mabli’, ac yntau hefyd gyfansoddodd y gerddoriaeth werinol-ambient, sy’n benthyg arddulliau sbârs artistiaid fel Lleuwen Steffan, Bon Iver a Low Anthem.
Mae Siddi wastad yn rhoi lle amlwg i’r geiriau anadlu yn eu caneuon, ac y tro hwn, mae geiriau Branwen yn trafod y cur pen o fagu plentyn bach yn y byd sydd ohoni.
Mae’r gerddoriaeth yn ddrych i’r geiriau wrth i’r gân adeiladu tuag at yr uchafbwynt wrth holi’r cwestiwn; “A wnei di faddau, am i ni wthio popeth da at lan y dibyn? Ond mae ‘na hen ddihareb, fod rhaid i ti glirio’r chwyn cyn cyrraedd at y blodyn.”
Mae ‘Mabli’ yn cael ei chyflwyno i ferch fach o’r un enw, am fod ei chwaer Buddug yn meddwl fod y gân ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor yn sôn amdani hi!
Bydd y sengl yn ymddangos ar yr albwm aml-gyfrannog fydd yn cael ei ryddhau ar 10 Mai er mwyn nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed llynedd. Bydd 16 o draciau gan artistiaid y label wedi’u cynnwys ar yr albwm fydd allan ar ffurf record feinyl ddwbl.