Ar ôl dychwelyd wedi saib fach gyda sengl ddwbl llynedd, mae’r grŵp indi-pop poblogaidd, Sŵnami, yn ôl gyda sengl newydd arall.
Enw’r trac diweddaraf gan y grŵp o Feirionydd ydy ‘Be Bynnag Fydd’ ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 18 Mawrth.
Mae’r sengl yn ddilyniant i’r traciau ‘Theatr’ ac ‘Uno, Cydio, Tanio’ a ryddhawyd ym mis Mawrth llynedd – dyma oedd eu cynnyrch newydd cyntaf ers y sengl ‘Dihoeni’ yn Awst 2017.
Roedd fideo trawiadol i gyd-fynd â ‘Theatr’, sef enillydd gwobr ‘Fideo Gorau 2021’ Gwobrau’r Selar, ac mae’r grŵp unwaith eto wedi cyhoeddi fideo i gyd-fynd â’r sengl ddiweddaraf.
Taith at dderbyn hunaniaeth
Mae ‘Be Bynnag Fydd’ yn gân freuddwydiol, flaengar a phwerus i’w hychwanegu at gatalog gwych y band.
Mae prif neges y gân yn cael ei chario gan lais hyfryd eu cydweithiwr cyson, Thallo, yn y gytgan…
“Beth bynnag sydd, beth bynnag fydd, does dim rhaid ti guddio oddi wrth y byd”.
Hynny yw, bod lle i fod yn wahanol, mae’n iawn i deimlo ar goll weithiau, a bod gan bawb yr hawl i fod yn pwy bynnag y maen nhw eisiau bod.
“Mae ‘Be Bynnag Fydd’ yn dogfennu fy nhaith at dderbyn fy hunaniaeth” meddai Gruff Jones o’r band.
“Mae hi wedi bod yn frwydr ar adegau. Dwi wedi teimlo mor benderfynol i ffitio mewn ac roeddwn i’n ei chael hi mor anodd i agor fyny. Ond nawr, rwy’n hapusach yn dathlu fy anghydffurfiaeth. Does dim rhaid i mi guddio pwy ydw i bellach.
“Teimlais ei bod hi’n hanfodol i wynebu’r teimladau hyn oherwydd rwy’n sicr nad fi yw’r unig un sydd wedi eu teimlo.”
Fideo sy’n portreadu emosiynau
Mae’r band wedi cael cymorth Blacklab Films, Caerdydd (sydd â gwaith wedi’i gomisiynu gan Guinness, Nike a S4C, ymhlith eraill) ar gyfer y fideo i helpu i ddod â syniadau’r grŵp yn fyw.
Wedi’i osod yn erbyn cefndir anhygoel ‘Bae’r Tri Chlogwyn’ yn Abertawe, gyda Linford Hydes o’r ‘Welsh Ballroom Community’, (casgliad o bobl sy’n dod â diwylliant ‘ballroom’ i fannau queer Cymru) yn serennu.
“Darn perfformiad yw’r fideo, eglura Gruff
“…sy’n portreadu’r emosiynau y mae rhywun yn eu teimlo, wrth frwydro gyda derbyn ei hun, gan gofleidio, a chael eich croesawu a’ch llethu gan eich amgylchfyd. Roedd gennym weledigaeth o sut y dylai’r fideo edrych, ac roedd gennym Linford Hydes i fynegi hynny gyda’i allu actio a’i ddawnsio hyfryd.”
Mae’r band yn ceisio cynrychioli natur flaengar a chroesawgar ein cenedl, rhinweddau sydd eu hangen nawr, yn fwy nag erioed mewn byd cythryblus, ond sydd hefyd yn esblygu.