Sengl y brodyr blewog o Fetws-y-Coed

Mae grŵp newydd o Ddyffryn Conwy wedi rhyddhau eu sengl gyntaf yn swyddogol fel tamaid i aros pryd nes EP fydd yn dilyn ddiwedd mis Tachwedd. 

‘Weithiau Mae’n Anodd’ ydy enw’r sengl newydd gan Lo Fi Jones sef prosiect cerddorol y ‘ddau frawd barfog’ o Fetws-y-Coed, Liam a Siôn Rickard. 

Er eu bod wedi rhannu rhai caneuon ar-lein cyn hyn a chael eu chwarae ar raglenni radio amrywiol, dyma’r sengl gyntaf i’w rhyddhau ar y prif lwyfannau ffrydio ganddynt.

Mae Lo Fi Jones yn plethu straeon o gariad a cholled mewn tirwedd sy’n newid yn barhaus, gan fynd a’r gynulleidfa ar daith lle caiff momentau o addfwynder eu cyfosod â swrealaeth, anarchiaeth, ac awyrgylch parti.

Mae ‘Weithiau Mae’n Anodd’ yn trafod y cyfnod lle bu’r brodyr yn byw yn Llundain ac am eu trafferthion yn trio gwneud bywyd a bywoliaeth yno fel cerddorion. 

Y sengl newydd ydy’r trac cyntaf oddi ar EP cyntaf Lo Fi Jones, ‘Llanast Yn Y Llofft’, sy’n dod allan ar 22 Tachwedd. Recordiwyd y mwyafrif o’r EP yn stafell wely Siôn ac mae’r caneuon yn dod o brofiadau personol yr aelodau gan gynnwys y diffyg cyfleoedd a bysus yng nghefn gwlad Eryri, ac yna symud i Lundain i’w chael hi’n anodd yn y fan honno’n lle! 

Mae’r EP hefyd yn ymdrin â’r themâu o gymuned, yr amgylchedd, traddodiad y Fari Lwyd, hanes, a thrafferthion pobl ifanc.

Cerddoriaeth werin sydd wrth wraidd Lo-fi Jones, a chyn y pandemig, roedd Liam a Siôn yn teithio’n gyson, ar fws a thrên pryd bynnag yr oedd hynny’n bosibl, ac yn perfformio gyda cherddorion o bedwar ban byd. 

Mae uchafbwyntiau diweddar y grŵp yn cynnwys perfformio ar Noson Lawen, Gŵyl Tân yn y Mynydd, Gŵyl y Pethau Bychain gyda Gwilym Bowen-Rhys, a chydweithio gyda Catrin Toffoc ac Irfan Rais ar y gân werin, ‘Ble Rwyt Ti’n Myned?’ 

Yn gynharach yn y flwyddyn eleni hefyd, perfformiodd Siôn yn y Tŷ Gwerin fel rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, ac yn rownd derfynol Cân i Gymru ar S4C.

Gan gadw pethau yn y teulu ymhellach, mae fideo wedi’i greu i gyd-fynd á’r sengl newydd gan chwaer fach y brodyr, sef Ciara Rickard. 

 

Gigs Lo Fi Jones:

25/11/22 – Y Llew Coch, Machynlleth

14/01/22 – Noson Y Fari Lwyd, Dinas Mawddwy

 

Dyma’r fideo: