Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyhoedd eu bod yn gwahodd cyfres o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru i berfformio mewn amrywiaeth o leoliadau eiconig ar draws dinas Abertawe dros y flwyddyn nesaf.
Bydd y sesiynau byw arbennig yma, wedi recordio mewn partneriaeth â Ffoto Nant a Stiwdio Sain, yn cynnwys artistiaid yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous.
Bwriad y sesiynau yw cyflwyno’r iaith Gymraeg i lefydd newydd a gwahanol, yn ogystal â chynnig platfform ychwanegol i artistiaid newydd.
Bydd y lleoliadau hyn yn cynnwys Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Derricks Music, yr Oriel Mission, The Bunkhouse, Amgueddfa’r Glannau, yr Oriel Elysium, yn ogystal â lleoliad y Fenter ei hun, Tŷ Tawe.
Mae’r ddwy sesiwn gyntaf yn rhoi llwyfan Ynys yn fyw o Dŷ Tawe, ac Eädyth x Izzy Rabey yn fyw o’r Oriel Glynn Vivian, ac maent ar gael i’w gwylio nawr ar yr app AM Cymru ac ar sianel YouTube Menter Iaith Abertawe.