Yn ddiweddar, cafodd Gruffudd ab Owain, ar ran Y Selar, sgwrs sydyn efo Izak Zjalič sy’n gyfrifol am y prosiect Sachasom.
Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur i’r prosiect; ym mis Gorffennaf, rhyddhawyd albwm cyfan o’r bîts y mae wedi bod yn eu creu o dan yr enw epig ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’, ac aeth ymlaen i ennill Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod.
Ac yntau bellach yn dechrau gwneud ei farc tra’n cynnig rhywbeth hollol newydd i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, dyma Izak yn trafod…
…ennill Brwydr y Bandiau
“Ma’n eitha mad achos, fel arfer mae bands yn ennill pan ma’n nhw’n eitha established felly mae’n eitha cynnar i ennill o.
“Y prif beth ‘di bod o’n dangos newid mewn agweddau pobl tuag at beth ydy cerddoriaeth Cymraeg; ‘di o ddim jyst yn bands indie neu traditional folk music, ma’n fwy na hynna ‘ŵan a ma ennill [Brwydr y Bandiau] yn dangos bod o ddim yn pigeon-hole-io [miwsig Cymraeg].”
…yr albwm yn fyw
“’Odd set cynta Sachasom yn perfformio’r tracklist sydd ar y albwm ond wedyn erbyn Brwydr y Bandiau o’n i di newid pethe rownd ac ymestyn y caneuon hefyd. Fel ‘Miliynwyr’ er enghraifft odd gennym ni fel ambient intro lle dwi’n darllen emynau Cymraeg o hen lyfr cyn i’r bits drop-io.
“Ma’n eitha tebyg i’r albwm felly yn naturiol ma pethe byw ’di translate-io i’r albwm ac wedyn trefn yr albwm. Be oedd yn fy mhen i wrth neud o oedd cal journey i’r gynulleidfa; trac introductory o’r enw ‘Bore Da’ ac wedyn y trac ola ’di ‘Hwyl Fawr’ – a ma’r darn olaf yn transition-o fewn i dechre ‘Bore Da’ so ma fel cylch mawr – circle of life, math o beth.”
…celfyddyd perfformiadau byw a’r broses greadigol
“Ma lot bobl ’di deud bod be ’den ni’n ’neud yn performance art a ma ’di ysbrydoli gan pobl odd yn ’neud miwsig odd ddim yn accessible ar record ond yn spectacle yn fyw. ‘Den ni di perfformio rhai caneuon sy’n defnyddio cerddi Cymraeg dros warp samples o cerddoriaeth byd. Dyna lle o’n i’n anelu ato.
“Ond ‘ŵan o siarad gyda pobl fel skylrk. – den ni’n cal lot o deep chats am y broses greadigol – a odd o ’di dangos pobl yn siarad am personal design language a pethe fel edrych mwy ar y broses na’r cynnyrch so gawn ni weld.”
…y dyfodol
“Byddai o’n neis cal mwy o bobl yn y set byw – ma pobl sy ddim yn chware’ offerynne’ yn ran mawr o performance art, ac yn adio rhywbeth at yr aesthetic.
“Byswn i’n hoffi ’neud actual caneuon dim jyst bîts so dyna ’di’r prif beth a trio gweithio allan be dwisho ’neud ‘ŵan, achos dwi’m isio bod yn styc mewn bocs lle dwi jyst yn neud bîts. Ond yn amlwg dwi dal isio neud bîts a ma fi a skylrk. yn mynd i neud pethe’n fuan.”
…y weledigaeth
“Ma’n eitha cymysg ond yn fy mhen i byddai o’n neis bod yn illusive neu chydig fel gangster Cymraeg ond hefyd dwisho edrych ar rai pethe fel hauntology.
“Ma ’na lyfr gan Jan Morris, ‘The Matter of Wales’, sy’n edrych ar hiraeth a oes aur Cymreictod; dwi’n ymddiddori yn hynny a nostalja hefyd ac edrych ar fy nheulu Cymraeg.
“Ond does na ddim gweledigaeth llawn eto ond mi ddaw efo amser.”
Prosiect yn sicr i gadw golwg arno.