Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymylol yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’r gerddoriaeth yng Ngŵyl Ara Deg eleni.
Canolbwynt gweithgareddau gŵyl gerddoriaeth Ara Deg ydy Neuadd Ogwen, Bethesa ac fe’i gynhelir eleni dros benwythnos 25 – 28 Awst. Sefydlwyd yr ŵyl yn 2019 ac mae’n cael ei churadu ar y cyd gydag un o gerddorion enwocaf yr ardal, Gruff Rhys, a fydd hefyd yn perfformio yno.
Mae llu o gerddorion yn perfformio dros y penwythnos, ond eleni hefyd bydd digwyddiadau amgen yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’r gerddoriaeth.
Bydd y gweithgareddau hyn yn digwydd yn ar ddydd Sadwrn 27 Awst. I ddechrau’r diwrnod bydd ffair recordiau gyda nifer o recordiau prin a chasgladwy o’r 60au a’r 70au, gan gynnwys stondin gan Recordiau Ankst fydd yn cynnwys ambell record brin gan y Super Fury Animals ac eraill.
Ond efallai mai’r digwyddiad ymylol mwyaf difyr fydd cyfres o sgyrsiau dan yr enw ‘Swyn Sain’ gyda 4 arlunydd a ffotograffydd a oedd yn rhan flaengar wrth greu rhai o gloriau a logos recordiau Sain yn y gorffennol.
Yn cymryd rhan yn y sgyrsiau yma bydd Jac Jones (dylunydd clawr Hedfan gan Brân, Yn Erbyn y Ffactore gan Edward H Dafis, record hir gyntaf Leah Owen a’r casgliad Goreuon Sain Eto), Stuart Neesham (dylunydd wnaeth greu logos Yr Atgyfodiad a logo sengl Brân i Recordiau Gwawr, a phosteri i gigs prifysgol Bangor), Garry Stuart (ffotograffydd clawr record Meic Stevens, Gog), a Robert Eames (ffotograffydd a dylunydd wnaeth greu clawr albwm olaf Brân, Gwrach y Nos).
I gyd-fynd â’r achlysur mae criw Ara Deg yn cynhyrchu llawlyfr unigryw gyda lluniau bandiau gwreiddiol, posteri gigs a chyfweliadau. Cost y digwyddiad fydd £4 (gan gynnwys y llawlyfr) neu gallwch archebu’r llawlyfr trwy wefan Neuadd Ogwen.
Mae prif artistiaid cerddorol yr ŵyl yn cynnwys Adwaith a Sage Todz ar y nos Iau, This is Kit ar y nos Wener, Gruff Rhys yng Nghapel Jerusalem brynhawn Sadwrn a Carwyn Ellis & Rio 18 ar y nos Sadwrn.