Mae’r canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, Siôn Russell Jones wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Sain ers dydd Gwener diwethaf, 28 Ionawr.
Enw’r trac newydd ganddo ydy ‘Creulon yw yr Haf’.
Mae Siôn yn gerddor amlwg ers sawl blwyddyn bellach ac wedi rhyddhau 2 albwm unigol ynghyd â sawl EP ers y record hir gyntaf ganddo, ‘And Suddenly’, a ryddhawyd yn 2010.
Mae hefyd wedi perfformio’n helaeth yng Nghymru a dros y byd, gan gynnwys SXSW Texas a Tokyo Rising a bu ar deithiau perfformio yn America, Japan ac Ewrop.
Arwyddodd y cerddor gyda chwmni cyhoeddi amlwg BDI yn 2017 ac arweiniodd hyn at gynnwys ei gerddoriaeth mewn nifer o gyfresi teledu amlwg.
Roedd Siôn hefyd yn aelod o’r ddeuawd boblogaidd Ginge and Cello Boi, ac mae hefyd yn aelod o’r grŵp Angel Hotel ar hyn o bryd ynghyd â’r band bluegrass Taf Rapids Stringband. Mae Siŵr y bydd rhai ohonoch yn cofio fersiwn cyfyr wych Angel Hotel o ‘Torra Fyn Ngwallt yn Hir’ gan Super Furry Animals a ymddangosodd ar gasgliad elusennol Corona Logic llynedd.
Mae ‘Creulon yw yr Haf’ yn gân a gyfansoddwyd gan Siôn yn dilyn marwolaeth ei dad yn haf 2018. Mae’n gân hiraethus, atgofus, ond eto mae yma obaith am ddyddiau gwell ac am y nerth i fod yn ddewr yn wyneb amgylchiadau anodd bywyd.
Mae’r trac diweddaraf yn cyd-fynd ag arfer cyfarwydd Siôn o gyfansoddi caneuon cynnes a gonest, ynghyd â’i arddull ddidwyll o ganu a’i chwarae gitâr deinamig.
Dyma Siôn yn perfformio’r trac ar raglen Heno, S4C wythnos diwethaf :