Mae’r grŵp roc o Gaerdydd, Static Inc, yn ôl gydag EP newydd.
Daeth Static Inc i’r amlwg yn 2020 wrth ryddhau’r record fer 6 trac, ‘Beth Nawr?’ ym mis Hydref y flwyddyn honno.
Nawr mae’r triawd yn ôl gydag EP 4 trac newydd o’r enw ‘Brithgofion’ sydd allan yn ddigidol ar Bandcamp y band ynghyd ag ar lwyfannau eraill.
Clo ar y cam cyntaf
Er bod y grŵp yn enw newydd yn 2020, daeth i’r amlwg eu bod wrthi’n creu cerddoriaeth ers rhai blynyddoedd cyn hynny ond heb fynd ati i ryddhau’r caneuon.
Mae hynny’n berthnasol wrth drafod yr EP newydd fel yr eglura un o’r aelodau.
“Y syniad tu nôl yr EP oedd i rhoi clo ar ein cam cyntaf fel band trwy ail recordio a gorffen caneuon o pryd roedden ond yn blant, yn ôl yn 2013” meddai Dan Edwards o’r band.
“Yn rhannol dros y cyfnod clo, cafodd popeth ei ail-drefnu ac ail recordio gyda’r wybodaeth rydym wedi casglu dros ddegawd o greu cerddoriaeth, ac ysgrifenwyd geiriau newydd i fynd ar syniadau a oedd yn wreiddiol yn offerynol.
“Rydym yn really hapus gyda sut mae’r prosiect wedi troi mas!”
Pwy ydy Static Inc?
Static Inc ydy Siôn Walters, sef y prif gyfansoddwr, gitarydd a chanwr y grŵp; Dan Edwards sydd hefyd yn ysgrifennu, chware gitar, canu, ac yn cynhyrchu’r gerddoriaeth; a Patrick Havard sy’n chware’r bas.
A hwythau wedi ffurfio yn y brifddinas, dywed y band fod amgylchedd Caerdydd wedi dylanwadu ar sŵn Static Inc ac mae ‘themâu metropolitaidd’ i lawer o’u caneuon.
Yn gerddorol mae gwaith y grŵp wedi’i ddylanwadu arno gan grwpiau fel Cocteau Twins, Talking Heads a Santana.
Dyma’r trac ‘Ymlacio’ o’r EP newydd: