Sŵnami ac Yws Gwynedd ymysg artistiaid Sesiwn Fawr Dolgellau 2022

Mae gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi enwau’r don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni. 

Mae’r Sesiwn yn un o’r nifer o wyliau cerddorol sydd heb allu digwydd yn y cnawd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddibynnu ar barhau’n rhithiol dros dro. Ond, bydd yr ŵyl yn ôl ar strydoedd Dolgellau eleni mewn pryd i nodi 30 mlynedd ers ei sefydlu’n wreiddiol. 

Cynhelir y Sesiwn Fawr dros benwythnos 15-17 Gorffennaf 2022 gyda pherfformiadau mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled tref Dolgellau.

Mae rhai o brif artistiaid Cymru wedi’u denu i fod yn rhan o’r lein-yp eleni, gan gynnwys Yws Gwynedd, Tara Bandito a Sŵnami ar y prif lwyfan, a noddir gan BBC Radio Cymru. 

Gwreiddiau gwerinol a cherddoriaeth byd sydd i’r Sesiwn Fawr, felly yn ôl yr arfer mae’r arlwy arbennig hefyd yn cynnwys enwau fel y byd-enwog Skerryvore o’r Alban, a N’famady Kouyaté o Guinea Gorllewin Affrica, a The Trials of Cato i enwi dim ond rhai

Ar y nos Sul, a hynny am y tro cyntaf erioed yn hanes y Sesiwn, bydd perfformiad arbennig yn Eglwys y Santes Fair gan Vrï ac eraill i gloi’r penwythnos. Eto i’w datgelu y mae lein-yp gigs y Clwb Rygbi, ynghyd â’r sesiynau comedi a llên sydd wedi chwarae rhan amlwg yn yr ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, ac amrywiol weithdai i blant a phobl ifanc.

Gŵyl gwrw i lansio

Bydd tocynnau penwythnos ar gyfer yr ŵyl yn mynd ar werth ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) ar wefan Sesiwn Fawr Dolgellau

Hefyd, gan ddilyn traddodiad y blynyddoedd diwethaf, mae bwriad i lansio’r brif ŵyl yn swyddogol mewn Gŵyl Gwrw a gynhelir gan y Sesiwn Fawr ar ddydd Sadwrn y 9 Ebrill.

“Fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, ni fu modd cynnal yr ŵyl yn ei ffurf arferol ar strydoedd Dolgellau dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i’r pandemig, ond trefnwyd sesiynau rhithiol i lenwi’r bwlch” meddai Guto Dafydd, Cadeirydd Pwyllgor y Sesiwn Fawr.

“Ar ôl hir ymaros, felly, rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd trigolion Dolgellau, ynghyd â hen ffrindiau a rhai newydd yn ôl i fwynhau arlwy’r Sesiwn mewn person unwaith eto. Mae hi wedi bod yn bleser sicrhau lein-yp cryf er mwyn dathlu’r garreg filltir arbennig o 30 mlynedd ers sefydlu’r Sesiwn Fawr!”

“Da Ni Nôl”

Mae BBC Radio Cymru’n falch iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad wrth iddi ddychwelyd yn ôl Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru.

“Mae’n bleser cyhoeddi y bydd Radio Cymru yn dychwelyd i fod yng nghanol y Sesiwn Fawr unwaith eto – yn enwedig ar ôl cyfnod mor anodd” meddai Dafydd Meredydd. 

“Mae gen i atgofion braf iawn o wylio a darganfod pob math o artistiaid gwych a gwahanol yn y Sesiwn, a dwi’n gwybod fod gwrandawyr Radio Cymru wrth eu bodd yn rhannu’r profiadau hynny yn Nolgellau ac ar y radio.

“Yng ngeiriau un o brif artistiaid yr ŵyl eleni – “Da Ni Nôl” ac yn edrych ymlaen!”