Sŵnami i barhau comeback gyda sengl arall

Bydd Sŵnami yn parhau â’u comeback diweddar wrth rhyddhau eu sengl newydd ar ddydd Gwener 10 Mehefin.

‘Paradis Disparu’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp indie-pop poblogaidd sy’n ddilyniant i‘r sengl ‘Be Bynnag Fydd’, a ryddhawyd yn gynharach eleni, a’r sengl ddwbl ‘Theatr’ / ‘Uno, Cydio, Tanio’, a laniodd llynedd.

‘Paradis Disparu’ ydy’r blas diweddaraf o ail albwm y grŵp, fydd yn cael ei ryddhau dan yr enw Sŵnamii (noder y ddau ‘i’)  yn ystod yr haf eleni. 

Mae ‘Paradis Disparu’ yn esiampl arall o grefft melodig Sŵnami, sy’n plethu â naws dwfn a phruddglwyfus eu cerddoriaeth. 

Trafod colled 

Mae’r gân yn trafod colled, fel yr eglura’r canwr a gitarydd, Ifan Davies. 

“Mae ‘Paradis Disparu’ am y dasg amhosib o symud ymlaen ar ôl colli rhywun” meddai Ifan. 

“Mae am droelli mewn i mania, a cheisio derbyn er bod yr hyn oedd yn arfer bod, wedi marw a’i golli, fod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen.” 

Seren ‘It’s a Sin’ yn y fideo

Bydd fideo cerddoriaeth ar gyfer ‘Paradis Disparu’ yn cael ei gyhoeddi’n fuan, a bydd yn cynnwys wyneb cyfarwydd i nifer. 

Mae’r grŵp yn dechrau dod yn adnabyddus am weithio gyda Chymry creadigol adnabyddus ar eu fideos, ac mae’r arfer hwnnw’n parhau eto wrth i’r fideo newydd serennu’r enillydd Gwobr Bafta Cymru Award, Callum Scott Howells. 

Mae Callum yn adnabyddus am ei berfformiad yn y gyfres Channel 4 lwyddiannus, ‘It’s A Sin’ gan Russell T Davies. 

Mae fideos senglau blaenorol Sŵnami wedi serennu Tom Rhys Harries, a Linford Hydes o’r Welsh Ballroom Community.

Ar ôl i’r grŵp gael rhai blynyddoedd tawel, bydd sawl cyfle i’w gweld yn perfformio’n fyw yn fuan gan gynnwys yng ngwyliau Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gigs Sŵnami wedi’u cadarnhau:

18 Mehefin – Tafwyl, Caerdydd

16 Gorffennaf: Sesiwn Fawr, Dolgellau

30 Gorffennaf – 6 Awst: Eisteddfod Genedlaethol, Tregaron