Mae Sŵnami wedi rhyddhau sengl newydd sy’n flas pellach o’u halbwm newydd fydd allan yn fuan.
‘Wyt Ti’n Clywed?’ ydy enw’r trac diweddaraf sydd allan ar label Recordiau Côsh wrth iddynt hefyd ddatgelu dyddiad rhyddhau eu hail albwm.
Bydd Sŵnamii allan ar 2 Rhagfyr, ac mae’n albwm sy’n plethu anhrefn bywyd person yn eu 20au yng Nghymru ar 11 croesffordd wahanol yn eu hoes.
Mae’r ail albwm yn un cysyniadol sy’n cyflwyno gwesty Sŵnamii, o purdan neon lle mae’r ystafelloedd yn cynrychioli galar, gorbryder, a dihangfa ieuenctid trwy gyfryngau ‘dream-pop’ ysgafn ac indi dwys, llawn egni.
Ym mhob adran o’r albwm, fel pob ystafell mewn gwesty, adroddir naratif wahanol gan y band sy’n myfyrio ar eu gorffennol, eu presennol, a’u dyfodol, gan ddogfennu’r cyflwr cyson o newid a fu o’u cwmpas yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae yna ychydig o hiraeth, chwalfeydd personol… mae ystafelloedd gwahanol yn y gwesty yn straeon gwahanol ar adegau gwahanol yn ein bywydau,” esbonia Gruff Jones o’r band.
Angen seibiant
Gan ffurfio yn 2011, mae hanes y band yn un o lwyddiant a phoblogrwydd, o’u EP cyntaf, ‘Du a Gwyn’, at eu halbwm cyntaf hunan-deitlog a ryddhawyd yn 2015, gan ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Cyn hir, roedden nhw’n cynrychioli Radio 1 yng ngŵyl Eurosonic yr Iseldiroedd, ac yn cymryd rhan mewn sesiwn yn stiwdio enwog Maida Vale. O’r llwyddiant hwnnw hefyd y daeth blinder ac unigedd.
“Roedden ni’n gigio’n gyson ac yna’n mynd i’r stiwdio,” eglura Gruff.
“Ond chafon ni ddim cyfle i setlo erioed oherwydd roedd yna bwysau cyson i wneud rhywbeth newydd, cyffrous a gwahanol.”
Felly roedd seibiant mawr ei angen ar ôl gweithio rownd y cloc a hynny oll tra’n astudio yn y brifysgol hefyd. Yn y cyfnod hwnnw, gosodwyd y fframwaith ar gyfer eu record nesaf, felly ar ôl dychwelyd i jamio.
Y blas cyntaf o’r Sŵnami newydd oedd y sengl ddwbl ‘Theatr’ a ‘Uno, Cydio, Tanio’ a ryddhawyd ym Mawrth 2021.
Ers hynny maent wedi rhyddhau’r senglau pellach ‘Be Bynnag Fydd’ ym Mawrth 2022 a yna ‘Paradis Disparu’ ym mis Mai eleni gydag addewid o albwm ar y ffordd cyn diwedd y flwyddyn.
Amrywiaeth sain
Wrth i ddyddiad rhyddhau’r albwm agosáu mae’r aelodau yn cydnabod bod eu sŵn bellach yn llawer agosach at yr hyn roedd y band eisiau iddo fod. Mae’r albwm yn gasgliad gonest o draciau newydd sy’n canolbwyntio ar yr oes hon o drawsnewid, yn y cyfnod hwnnw rhwng bod yn hen ac ifanc ac, fel llawer o rai eraill, cael trafferth gyda’u hunaniaeth ar hyd y ffordd.
“Mae hyn yn llawer agosach at yr hyn roedd Sŵnami wastad eisiau bod, a’r ffordd yr oedden ni eisiau swnio fel hefyd,” esbonia Ifan Davies, gitarydd a chanwr y band.
Daw’r amrywiaeth sain yna i’r amlwg hefyd wrth iddynt gyd-weithio gydag artistiaid eraill gan gynnwys y gantores Thallo wrth iddi ychwanegu ei llais syfrdanol at draciau fel ‘Anghyfarwydd Haul’ i ategu at y curiadau cywrain a llais trawiadol Ifan ei hun.
Mae cysyniad y gwesty hefyd yn ymestyn i ochr weledol yr albwm, gyda’r gwaith celf ar gyfer pob sengl yn cynrychioli ‘ystafell’ y gân honno, gan roi cip ar y cyflwr meddwl oedd tu ôl i’r stori benodol honno.
Un peth sy’n aros yn gyson ar yr albwm ydi’r penderfyniad i ganu yn Gymraeg, rhywbeth nad yw’r grŵp yn gweld yn newid yn fuan.
“Fydd cerddoriaeth Gymraeg byth yn diflannu. Mae yna dirwedd gerddorol hynod o gryf yng Nghymru ar hyn o bryd gyda llawer o fandiau, artistiaid a thalent newydd. Y prif beth gyda’r sîn yw pa mor lwcus ydyn ni gyda’r rhwydwaith cefnogol o’i gwmpas, boed hynny’n orsaf radio genedlaethol neu’n orsaf deledu sydd wir yn malio ac yn cefnogi bandiau Cymraeg.”
“Roedd gwneud albwm Cymraeg arall i ni’n teimlo fel rhywbeth naturiol, doedden ni ddim yn meddwl gormod amdano ac fe wnaethon ni jyst creu yr hyn ddaeth allan orau i ni.”
Mae’r sengl ‘Wyt Ti’n Clywed?’ allan ar y llwyfannau digidol nawr a bydd yr albwm Sŵnamii’ yn dilyn ar 2 Rhagfyr.