Mae Sŵnami wedi rhyddhau eu sengl newydd sbon, sef y gân emosiynol ‘Pardis Disparu’, ers dydd Gwener diwethaf 10 Mehefin.
Mae hon yn ddilyniant i senglau diweddar eraill y grŵp indie-pop, ‘Be Bynnag Fydd’, a oedd yn dogfennu taith aelod o’r band, Gruff Jones, i dderbyn ei hylifedd rhywedd, a’r sengl ddwbl ‘Theatr’ / ‘Uno, Cydio, Tanio’, a gafodd eu rhyddhau’r llynedd.
Mae’r caneuon newydd hyn i gyd yn cynnig y cipolwg ar ail albwm hir-ddisgwyliedig y band, Sŵnamii, fydd yn cael ei ryddhau yn ystod yr haf.
Ers rhyddhau eu halbwm cyntaf yn 2015, mae Sŵnami wedi gwthio ffiniau cerddoriaeth Gymraeg, a’i chyflwyno i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Heb gyfaddawdu ar eu polisi o ysgrifennu a pherfformio yn bennaf yn y Gymraeg, mae’r grŵp wedi cael llwyddiant oherwydd eu sain unigryw, nid er gwaethaf hynny.
“Os gall pobl fel Christine and the Queens ganu yn Ffrangeg a Sigur Ros yn eu hiaith eu hunain – pam na allwn ni ganu yn Gymraeg?” meddai Gruff o’r band wrth y BBC.
Mae eu cyfuniad o gitars llachar, a thôn indie ac alawon pop pur wedi llwyddo i ddenu nifer o ddilynwyr – os ydyn nhw’n siarad yr iaith neu beidio. Wedi eu halbwm cyntaf, aeth y band i recordio sesiwn arbennig yn Maida Vale ar gyfer y BBC, ac fe enillon nhw wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.
Cân am alar
Mae ‘Pardis Disparu’ yn enghraifft o allu’r band i blethu melodïau perffaith â thonau dwfn, melancolaidd.
Cân am alar yw hon gyda geiriau sy’n dyheu am gael yr amser gyda rhywun yn ôl – “Ma’r nefoedd rhy bell i ni”.
“Mae Paradis Disparu yn ymwneud â’r dasg amhosib o symud ymlaen ar ôl colli rhywun” meddai Ifan Davies o’r band.
“Mae’n sôn am geisio ymdopi gyda theimladau sydd yn eithaf ‘manic’ ar adegau, a cheisio derbyn, er bod yr hyn a fu unwaith bellach wedi mynd, bod yn rhaid i fywyd fynd yn ei flaen.”
Bydd fideo cerddoriaeth ar gyfer ‘Paradis Disparu’ yn cael ei gyhoeddi’n fuan sy’n serennu’r enillydd Gwobr Bafta Cymru, Callum Scott Howells, sy’n fwyaf adnabyddus am ei berfformiad yn y gyfres Channel 4 lwyddiannus, ‘It’s A Sin’ gan Russell T Davies.