Sywel Nyw yn copio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Record hir gyntaf Sywel Nyw, ‘Deuddeg’ oedd enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wythnos diwethaf. 

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni unigryw ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod ddydd Mercher diwethaf, 3 Awst. Roedd y seremoni’n unigryw gan i’r Eisteddfod gyfuno cyhoeddi enillydd gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gyda chyhoeddiad enillydd gwobr Tlws y Cerddor, sef Edward Rhys-Harry. 

Sywel Nyw ydy prosiect unigol y cerddor Lewys Wyn, sydd hefyd yn aelod o’r band Yr Eira. 

Yr albwm ‘Deuddeg’ oedd penllanw prosiect uchelgeisiol gan Sywel Nyw i ryddhau sengl newydd bob mis, gan gyd-weithio gydag artist gwahanol bob tro, yn ystod 2021.

Rhyddhawyd yr holl senglau fel cyfanwaith ar yr albwm ar 21 Ionawr 2022.  

Mae ‘Deuddeg’ yn gasgliad eclectig o senglau, ac wrth eu casglu ynghyd maent yn creu albwm crefftus, sy’n crisialu 2021 i Sywel Nyw. 

O guriadau dawns ffyrnig ‘Amser Parti’ gyda Dionne Bennett i synau melancolig a hynaws, ‘Bonsai’ gyda Glyn Rhys-James. 

Yna cewch ganeuon mwy breuddwydiol megis ‘Rhwng Dau’ gyda Casi Wyn, a geiriau gonest ac amrwd Lauren Connelly yn ‘10/10’. 

Rhyddhawyd yr albwm ar label recordiau Lwcus T, sef y label sy’n cael ei redeg gan frawd Lewys, Griff Lynch. 

Roedd yr Eisteddfod yn un llwyddiannus i’r ddau frawd am sawl rheswm gan mai hwy hefyd oedd yn gyfrifol am y sioe ‘Lloergan’ a berfformiwyd yn y Pafiliwn ar nos Wener agoriadol yr Eisteddfod.