Mae gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi rhagor o enwau artistiaid fydd yn perfformio yn y digwyddiad eleni. Cynhelir Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ar 18 a 19 Mehefin.
Roedd y trefnwyr, sef Menter Caerdydd, eisoes wedi cyhoeddi manylion nifer o artistiaid oedd yn perfformio gan gynnwys Sŵnami, Yws Gwynedd, Adwaith ac Eädyth.
Nawr maent wedi ychwanegu nifer o enwau ar y lein-yp trawiadol sef – Gwilym, Breichiau Hir, N’famady Kouyaté, Hana Lili, Mellt, Mei Gwynedd, Ciwb, Morgan Elwy, Cerddorfa Ukelele, Bwncath, Meinir Gwilym, Burum, Lily Beau, Parisa Fouladi, Blodau Papur, Cowbois Rhos Botwnnog, Thallo, Avanc, Eve Goodman a Mari Mathias.
Mae gwybodaeth lawn yr ŵyl ar wefan Tafwyl.