Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi manylion dyddiadau taith Ewropeaidd ei albwm diweddaraf, ‘Seeking New Gods’.
Rhyddhawyd yr albwm ym mis Mai 2021, ac mae Gruff eisoes wedi cynnal taith Brydeinig dros yr hydref.
Bydd nawr yn cynnal taith Ewropeaidd ym mis Mawrth gan ymweld â deunaw o leoliadau amrywiol.
Bydd y daith yn dechrau ar 3 Mawrth yn Hamburg yn Yr Almaen gan ymweld â lleoliadau yn Yr Iseldiroedd, Denmarc, Sbaen, Yr Eidal, Swistir a Ffrainc rhwng hynny a 25 Mawrth pan fydd y daith yn gorffen yn Dunkerque yn Ffrainc.
Mae manylion llawn y daith a dolenni i brynu tocynnau ar wefan Gruff Rhys.