Taith lansio albwm newydd Plu

Mae Plu wedi cyhoeddi manylion taith lansio eu halbwm newydd, ‘Tri’, sydd hefyd ar gael i’w rag archebu erbyn hyn. 

Bydd yr albwm newydd yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 29 Ebrill. 

Er mwyn nodi hyn, bydd y triawd brawd a chwaer yn perfformio mewn cyfres o gigs lansio yn ystod mis Mai a Mehefin gan ymweld â Chaernarfon, Llangywer, Crymych, Aberystwyth, a Chaerdydd. 

Cafwyd tamaid i aros pryd nes yr albwm ar ffurf y sengl ‘Storm dros Ben-y-Fâl a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth. Dyma oedd cynnyrch newydd cyntaf y grŵp ers rhyddhau eu halbwm diwethaf,  ‘Tir a Golau’, nôl yn 2015.

Bydd yr albwm newydd ar gael yn y siopau, mewn gigs ac ar safle Bandcamp yn y lle cyntaf, ac yna ar y llwyfannau digidol eraill arferol o fis Mehefin ymlaen. 

Recordiwyd caneuon yr albwm dros gyfnod o ddwy flynedd yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes. Yn ogystal â’r aelodau craidd – Gwilym Bowen Rhys a’i ddwy chwaer, Marged ac Elan Rhys – mae’r cerddorion gwadd Carwyn William, Dafydd Owain ac Edwin Humphreys, wedi cyfrannu at waith recordio’r albwm newydd. .

Mae’r albwm yn cynnwys cyfuniad o ganeuon â naws Americana, rhai amgen ac atmosfferig, yn ogystal â tiwns gwerin-bop, i gyd â harmonïau cymhleth sy’n gysylltiedig â sain leisiol Plu. 

Label Sbrigyn Ymborth sy’n rhyddhau ‘Tri’ ac mae modd rhag archebu’r albwm nawr trwy wefan Plu.

Dyma fanylion y gyfres o gigs lansio: 

1 Mai – Theatr y Llys, Caernarfon (gydag Eve Goodman)

6 Mai – Neuadd Llangywer, ger Y Bala (gyda Rhys Gwynfor)

7 Mai – Gŵyl Fel’na Ma’i, Crymych

10 Mehefin – Amgueddfa Aberystwyth (gyda Cerys Hafana)

11 Mehefin – Eglwys Norwyeg, Caerdydd (gyda Dafydd Owain)