Taith Tachwedd Cynefin

Bydd y grŵp gwerin, Cynefin, yn mynd ar daith fis Tachwedd yma gan ymweld â 7 o leoliadau ledled Cymru. 

Dyma fydd y tro cyntaf i’r triawd, oedd yn gigio’n rheolaidd iawn cyn hynny, deithio gyda’i gilydd ers 2019. 

Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr ydy Cynefin. Aelodau eraill y prosiect ydy Fred Davies ar yr offer taro ac Alfie Weedon ar y bas dwbl.

Wedi’i gyfareddu gan gerddoriaeth a hanes, mae’r prosiect yn rhoi llais i dreftadaeth gyfoethog Ceredigion sydd eisoes wedi mynd yn angof. 

Yn perfformio gyda’i driawd, mae Owen yn rhoi llais cyfoes i’r straeon a chaneuon hynafol yma.

“Roedd y daith y i fod i ddigwydd yn sgil rhyddhau Dilyn Afon dwy flynedd yn nôl, ond oherwydd covid cafodd ei gwthio yn nôl” eglurodd Owen wrth Y Selar.

“Byddwn yn chwarae traciau o’r albwm  yn ogystal â rhoi golwg cyntaf ar ddeunydd newydd, sy’n gyffrous. Edrych ymlaen!”

Bydd y daith yn dechrau  yn Theatr Mwldan,  Aberteifi yng Ngŵyl Lleisiau Newydd ar 3 a 4 Tachwedd. 

Bydd Cynefin yn symud ymlaen wedyn i berfformio yn Rheadr, Caernarfon, Aberystwyth, Caerfyrddin a Rhydaman cyn cloi’r daith nôl yng Ngheredigion yn Theatr Felinfach ar 11 Tachwedd. 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y sioeau ar wefan Cynefin nawr. 

Dyddiadau taith Cynefin: 

03 + 04 Tachwedd – Gŵyl Lleisiau Newydd, Theatr Mwldan, Aberteifi 

05 Tachwedd – The Lost ARC, Rheadr 

07 Tachwedd – Galeri, Caernarfon 

08 Tachwedd –  Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 

09 Tachwedd – Theatr y Lyric, Caerfyrddin

10 Tachwedd – Canolfan Lles Glowyr, Rhydaman

11 Tachwedd – Theatr Felinfach