Taith Tresor Gwenno

Mae Gwenno wedi cyhoeddi manylion taith i hyrwydd ei halbwm newydd, Tresor. 

Mae’r daith yn agor gyda pherfformiad yn y ‘Sea Change Festival’ yn Totnes yn Nyfnaint ar 28 Mai. 

Wedi hynny bydd yn symud ymlaen i Bort Talbot ar gyfer un o ddim ond dau gig o’r gyfres sy’n digwydd yng Nghymru. Bydd yn perfformio yng ngŵyl ‘In it Together’ ym Mhort Talbot ar 3 Mehefin. 

Mae 16 o gigs yn y gyfres i gyd, gan orffen yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar 30 Medi. 

Bydd Tresor, sef trydydd albwm llawn Gwenno, allan ar 1 Gorffennaf ar label Heavenly Recordings. Mae’n ddilyniant i’r albwm Cymraeg, ‘Y Dydd Olaf’ ac ‘Le Kov’ sef albwm cyfan gwbl yn yr iaith Gernyweg. 

Mae Tresor unwaith eto yn albwm Cernyweg yn bennaf ac fe’i ysgrifenwyd yn St Ives, Cernyw ychydig cyn y clo mawr yn 2020. 

Mae modd rhag archebu’r record nawr ar safle Bandcamp

Rhestr gigs Gwenno isod