Tapestri’n rhyddhau ‘Atgofion’

Mae’r prosiect sy’n cyfuno doniau dwy o artistiaid benywaidd mwyaf talentog Cymru wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 17 Mehefin. 

‘Atgofion’ ydy enw’r sengl newydd gan Tapestri, sef prosiect y ddeuawd Sera Zyborska a Lowri Evans. 

Daw Sera Zyborska o Gaernarfon yn wreiddiol a Lowri Evans o Drefdraeth yn Sir Benfro ac mae’r ddwy’n gyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymru fel artistiaid dwyieithog sydd wedi ysgrifennu, perfformio a recordio’n unigol dros sawl blwyddyn.

Rhyngddynt maent wedi cael eu hyrwyddo ar BBC 6 Music, Radio 2, wedi perfformio ym mhobman o ŵyl y Dyn Gwyrdd i Gŵyl Rhif 6, o King Tut’s yn Glasgow i’r Union Chapel; O Gymru i America i Ffrainc, sydd fel mae’n digwydd, lle bu’r ddwy yn cyfarfod am y tro cyntaf, wrth berfformio ym mhafiliwn Cymru yng ngŵyl Lorient yn Awst 2019.

Sbardunodd y cyfarfod cyntaf hwn syniad i ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o gerddoriaeth Americana; band â all berfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod. 

Mae’r ddeuawd wedi’u hysbrydoli gan The Highwomen, ‘supergroup’ o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad.

Mae eu  caneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy’n cynnwys Americana, ‘Roots’, Gwerin a Gwlad, oll wedi’u gweu yn bersain â’i gilydd drwy eu  doniau cerddorol a chynhesrwydd eu perfformiadau.

Dyma’r drydedd sengl Gymraeg gan Tapestri ac mae eu dwy flaenorol, ‘Y Fflam’ ac ‘Arbed dy Gariad’ wedi eu dewis fel ‘rac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru. 

Mae ‘Atgofion’ wedi ysbrydoli gan hen fodryb Sera a symudodd i’r Unol Daleithiau ar ôl yr ail ryfel byd, fyth i ddychwelyd yn ôl i Gymru a gweld ei theulu eto. Cân sy’n delio â phŵer hiraeth, atyniad y môr, cariad tuag at eich gwreiddiau a’r poen o fod yn bell o adref. 

Y newyddion pellach gan Tapestri ydy y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Medi 2022 yn dilyn gwanwyn/haf prysur o gigs a senglau.

Bydd nifer o gyfleoedd i weld Tapestri’n perfformio’n fyw dros yr haf eleni gan gynnwys yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl Werin Caergrawnt ac yng Ngŵyl Aberjazz yn Abergwaun.