Tecwyn Ifan yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar

Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Tecwyn Ifan ydy enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni. 

Datgelwyd y newyddion i’r cerddor mewn sgwrs arbennig a ddarlledwyd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru bore ma, 16 Chwefror. 

Mae Tecwyn yn ymuno â’r rhestr o gerddorion dylanwadol sydd wedi derbyn y wobr yn y gorffennol sef Pat a Dave Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones, Mark Roberts a Paul Jones (Y Cyrff/Catatonia/Y Ffyrc), Gruff Rhys a Gwenno. 

Mae’r wobr Cyfraniad Arbennig eleni’n cael ei noddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – myfyrwraig celf o’r brifysgol honno, Ffion Richardson, sydd hefyd creu’r gwaith celf arbennig sy’n cael eu rhoi i’r enillwyr eleni. Yn briodol iawn, mae Ffion yn dod o Sir Benfro, sy’n ardal cyfarwydd iawn i Tecwyn wrth gwrs.

Clasuron lu

Mae Tecwyn Ifan yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru ers y 1970au. Ffurfiodd ei fand cyntaf, Perlau Taf ar ddiwedd y 1960au pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendy Gwyn ar Dâf.

Ar ôl mynd ymlaen i’r Brifysgol ym Mangor fe ffurfiodd y grŵp Ac Eraill gyda thri cherddor amlwg arall sef Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards. Chwalodd y grŵp ym 1975, ac fe ddechreuodd Tecwyn Ifan berfformio fel artist unigol yn fuan wedi hynny.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Y Dref Wen ym 1977 – record sy’n cael ei chydnabod fel un o glasuron mwyaf yr iaith Gymraeg. Daeth cyfres o recordiau hir i ddilyn ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au, ac mae wedi rhyddhau deg o albyms hyd yma.

Dyma restr lawn o’i albyms, pob un wedi’i rhyddhau ar label Recordiau Sain:

  • Y Dref Wen (1977)
  • Dof yn Ôl (1978)
  • Goleuni yn yr Hwyr (1979)
  • Edrych i’r Gorwel (1981)
  • Herio’r Oriau Du (1983)
  • Stesion Strata (1990)
  • Y Goreuon (1995)
  • Sarita (1997)
  • Wybren Las (2005)
  • Llwybrau Gwyn (2012)
  • Santa Roja (2021)

 

Un peth sy’n sicr am Tecwyn ydy fod ganddo’r gallu i gyfansoddi tiwn!

Dros y blynyddoedd mae wedi rhyddhau llwyth o ganeuon sydd wedi dod yn glasuron gan gynnwys ‘Y Dref Wen’, ‘Stesion Strata’, ‘Bytholwyrdd’, ‘Ofergoelion’ a ‘Sarita’ i enwi dim ond llond llaw. 

Dros y blynyddoedd mae hefyd wedi bod yn barod iawn i gyd-weithio gyda cherddorion eraill, yn ogystal â beirdd gan gynnwys Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood yn ddiweddar. 

Cerddor diymhongar

Yn wahanol i’r mwyafrif o gategorïau Gwobrau’r Selar, sy’n cael eu dewis gan bleidlais gyhoeddus, tîm canolog Y Selar sy’n dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn flynyddol. 

“Does dim amheuaeth bod Tecwyn Ifan yn llawn haeddu’r wobr yma am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros y blynyddoedd” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone. 

“Rydyn ni bob amser yn dyfarnu’r wobr yma i gerddorion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol dros gyfnod hir o amser, ond sydd hefyd yn parhau i wneud hynny.

“Os edrychwch chi ar yr enillwyr blaenorol, rydyn ni wedi cyflwyno’r wobr iddynt yn fuan ar ôl iddynt ryddhau cynnyrch newydd. Mae hynny’n wir unwaith eto gyda Tecwyn sydd wedi rhyddhau albwm newydd, Santa Roja, fis Medi diwethaf

“Mae Tecwyn yn un o’r bobl ddiymhongar yna sydd efallai heb gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu yn y gorffennol gan nad ydy o’n un sy’n tynnu gormod o sylw at ei hun. Mae o’n rywun sydd wedi bod yn uchel ar y rhestr i dderbyn y wobr yma ers sawl blwyddyn mewn gwirionedd, jyst ein bod ni’n disgwyl am yr amser iawn i wneud hynny. Gyda chynnyrch newydd allan ganddo yn 2021 roedd yn gyfle perffaith i ddathlu ei gyfraniad dros y degawdau. 

“Llongyfarchiadau mawr i Tecwyn gan griw Y Selar, ac rydan ni’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o gerddoriaeth ganddo dros y blynyddoedd i ddod.”

Bydd rhagor o enillwyr Gwobrau’r Selar yn cael eu datgelu ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru heno a fory.

Dyma fersiwn wych Ciwb o ‘Ofergoelion’ gan Tecwyn fel teyrnged fach iddo…