Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion lein-yp eu gigs nosweithiol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, gydag un enw ar y poster yn neidio allan yn arbennig.
Clwb Rygbi Tregaron fydd lleoliad gigs y Gymdeithas eleni, a bydd adloniant yno trwy gydol yr wythnos, gan ddechrau ar nos Sadwrn 30 Gorffennaf.
Yr enw sy’n dal y llygad yn syth wrth edrych ar arlwy’r wythnos ydy The Joy Formidable, sydd wedi mwynhau llwyddiant rhyngwladol ers sawl blwyddyn. Bydd y grŵp sy’n dod yn wreiddiol o Ogledd Ddwyrain Cymru’n chwarae ar y nos Iau gyda Los Blancos, Pys Melyn ac Eädyth yn cefnodi.
Bydd clamp o gig yn agor yr wythnos ar y nos Sadwrn cyntaf gyda Candelas, Twmffat, Mali Hâf a Morgan Elwy yn perfformio.
Noson llawer mwy gwerinol ei naws fydd yr arlwy ar nos Sul 31 Gorffennaf gyda Gwilym Bowen Rhys yng nghwmni Gwen Màiri a Patrick Rimes yn cloi noson sydd hefyd yn cynnwys Julie Murphy gyda Ceri Rhys Matthews, Cynefin a Mari Mathias.
Bydd naws reit werinol i’r nos Lun hefyd gyda Bwncath, Tant, Bwca ac Eve Goodman yn perfformio.
Rhywbeth hollol wahanol fydd ar y nos Fawrth sef noson farddoniaeth gyda Bragdy’r Beirdd a Cicio’r Bar yn cyflwyno ‘Yn y Gors’ gydag Ifor ap Glyn yn cyflwyno noson o gerdd a chân.
Pethau’n poethi
Mae pethau’n codi gêr ar y nos Fercher gydag Adwaith yn cloi noson gref sydd hefyd yn cynnwys setiau gan HMS Morris, Bitw ac Elis Derby.
Mae lein-yp nos Wener hefyd yn dod a dŵr i’r dannedd wrth i Mr (Mark Roberts) headleinio gig Cymdeithas unwaith eto’n dilyn ei berfformiad anhygoel i gloi gigs Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019. Bydd band diweddaraf y gŵr lleol Dylan Hughes, sef Ynys, yn brif gefnogaeth gyda Hap a Damwain a Pasta Hull hefyd ar y lein-yp.
Breichiau Hir fydd yn cloi’r wythnos i’r Gymdeithas eleni gyda Mei Gwynedd a Dienw’n cefnogi. Ond efallai mai’r enw fydd yn denu’r mwyaf o chwilfrydedd ar y leinyp ar y nos Sadwrn ydy Clustiau Cŵn, sef band cyntaf y DJ Gareth Potter, oedd hefyd yn aelod amlwg o Traddodiad Ofnys a Ty Gwydr.
Mae modd prynu tocynnau unigol ar gyfer y nosweithiau, neu docyn wythnos am bris gostyngol, ar wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nawr.