The Joy Formidable yn ryddhau EP o ganeuon Cymraeg

Mae The Joy Formidable wedi rhyddhau EP newydd o ganeuon Cymraeg heddiw dan yr enw Pen Bwy Gilydd. 

Mae’r dyddiad rhyddhau yn cyd-fynd ag ymddangosiad prin gan The Joy Formidable yn yr Eisteddfod Genedlaethol wrth iddynt berfformio fel rhan o gigs ymylol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghlwb Rygbi Tregaron nos Iau. 

Daw’r grŵp yn wreiddiol o’r Wyddgrug, ac er eu bod wedi rhyddhau nifer o ganeuon Cymraeg yn y gorffennol, maent wedi profi llwyddiant rhyngwladol yn bennaf trwy ganu’n y Saesneg.

Gan ystyried hynny, a’r ffaith eu bod wrthi’n paratoi ar gyfer eu taith ddiweddaraf yn yr Unol Daleithiau, roedd yn dipyn o syndod i’w gweld yn ymddangos ar lein-yp gigs y Gymdeithas eleni. 

“Teimlo fel yr adeg perffaith”

Triawd ydy The Joy Formidable sef Rhiannon ‘Ritzy’ Bryan, sy’n canu ac yn chwarae’r gitâr, Rhydian Dafydd ar y gitâr fas a llais cefndir, a Matthew James Thomes ar y drymiau ac offer taro. 

Er bod llawer o’u llwyddiant wedi dod trwy ganu’n Saesneg, maent wedi rhyddhau caneuon Cymraeg yn gyson ers ffurfio tua phymtheg mlynedd yn ôl, gan gynnwys y trac agoriadol ar eu halbwm llwyddiannus ‘Aaarth’ a ryddhawyd yn 2018, sef ‘Y Bluen Eira’. 

Maent hefyd wedi bod yn rhyddhau nifer o senglau Cymraeg fel rhan o’r gyfres ‘Aruthrol’. 

“Da ni wedi meddwl rhoi’r gyfres Aruthrol fel un rhyddhad ers dipyn” meddai Rhydian Dafydd wrth drafod y penderfyniad i ryddhau’r EP gyda’r Selar

“Ac roedd ychwanegu sengl newydd a chân fyw o’n perfformiad byw ar-lein, Clwb TJF, yn ogystal â dathlu ein perfformiad cyntaf yn yr Eisteddfod yn teimlo fel yr adeg perffaith.” 

Roedd y perfformiad ar-lein dan sylw’n un o’r nifer o fuddion mae aelodau ‘Clwb TJF’ yn ei gael fel rhan o’u pecyn aelodaeth misol. 

Gigio’r Steddfod

Mae’r EP newydd ganddynt yn gasgliad o wyth o ganeuon hen a newydd sydd wedi’i rhyddhau neu ysgrifennu gan y band rhwng 2016 a 2022. 

Mae gwaith celf y record fer wedi’i greu gan Robin Mason o Borthcawl ac roedd yr EP yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i aelodau Clwb TJF y band. Roedd nifer cyfyngedig o gopïau CD o’r casgliad ar gael i’w rhag archebu, ac roedd rhain i gyd wedi eu gwerthu allan ymlaen llaw. 

Mae’r grŵp yn amlwg yn edrych ymlaen yn fawr at gael perfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf. 

“Da ni mor falch bo ni o gwmpas i gigio’r Steddfod o’r diwedd” eglura Rhydian. 

“Da ni di bod ar daith bob blwyddyn lle da ni di cael cynnig felly mae’r sêr yn eu lle y tro yma a da ni wir yn edrych mlaen! Da ni’n chwara ein caneuon Cymraeg dros y byd yn ein set arferol ond grêt fydd hi rŵan i wneud perfformiad cyfan yn y Gymraeg.”

Ac nid yr EP newydd fydd diwedd y stori i The Joy Formidable o safbwynt cynnyrch Cymraeg – mae ganddynt lot o gynlluniau ar y gweill.

“Da ni’n rhyddhau cerddoriaeth o hyd drwy ein Clwb/Gwefan felly dyna y lle gorau i ein cefnogi ag i weld be sydd ar y gweill” meddai Rhydian.

“Mae yna lot o syniadau eraill hefyd…..albwm unigol i mi a Rhiannon, mwy o senglau ar y label Aruthrol – lle da ni’n rhyddau caneuon Cymraeg efo artist arall da ni’n eu hedmygu o Gymru – albwm newydd TJF, albwm Cymraeg arall a prosiect ar yr ochr os fyddwn dal yn sefyll!”

Lot i edrych ymlaen iddo felly a melys moes mwy medd Y Selar.