Mae’r grŵp gwerin cyfoes dwy-ieithog, The Trials of Cato, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs y byddant yn perfformio dros yr wythnosau nesaf.
Mae’r grŵp newydd ddychwelyd o UDA ble’r oedden nhw’n recordio eu halbwm newydd.
Er mwyn dathlu maen nhw’n cynllunio cyfres fer o gigs sy’n ymweld â sawl cwr o Gymru. Roedd y cyntaf o’r rhain yn stiwdio Acapela ger Caerdydd nos Sadwrn diwethaf (5 Mawrth) a byddan nhw hefyd yn perfformio ym Mangor, Aberteifi, Llandrindod ac Aberystwyth.
Ffurfiwyd The Trials of Cato gan y triawd Tomos Williams, Will Addison a Robin Jones yn 2017 ond gadawodd Addison y grŵp yn 2020 gyda’r canwr a chwaraewr mandolin Polly Bolton yn ymuno yn ei le.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, ‘Hair and Hide’, yn 2018 ac fe enillodd wobr yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2019.
Mae tipyn o gyffro ynglŷn â’u halbwm newydd, Gog Magog, fydd allan yn fuan.
Yn ôl yr hyn mae’r Selar yn deall, bu’r band yn recordio yn nhalaith Efrog Newydd yn ystod mis Chwefror, ac mae’r record wrthi’n cael ei gymysgu ar hyn o bryd. Does dim dyddiad rhyddhau wedi’i gadarnhau eto.
Mae’r grŵp hefyd wedi datgelu’n ddiweddar y byddan nhw’n perfformio yng ngwyliau Beautiful Day yn Devon eleni, ynghyd â Gŵyl Werin Caergrawnt.
Gigs The Trials of Cato:
5 Mawrth – Studio Acapela, Caerdydd
10 Mawrth – Pontio, Bangor
11 Mawrth – Theatr Mwldan, Aberteifi
12 Mawrth – The Grand Pavilion, Llandrindod
20 Ebrill – Canolfan Celfyddydau, Aberystwyth