Mae tocynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2023 ar gael i’w prynu am y tro cyntaf nawr.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd ydy’r ŵyl gerddoriaeth fwyaf yng Nghymru, ac fe’i cynhelir yn y Bannau Brycheiniog rhwng 17 a 20 Awst yn 2023.
Hyd yma, does dim manylion ynglŷn â’r artistiaid fydd yn perfformio blwyddyn nesaf, ond bydd y tocynnau cyntaf siŵr o werthu’n gyflym, yn enwedig y nifer cyfyngedig sydd ar gael am bris ‘cyntaf i’r felin’ arbennig.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym mis Awst eleni oedd yr ugeinfed tro i’r digwyddiad gael ei gynnal ac roedd yn adlewyrchiad perffaith o pam bod yr ŵyl wedi datblygu i fod yn un mor boblogaidd dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae addewid bydd digwyddiad 2023 yn un arbennig iawn eto gyda phenwythnos yn llawn o ddathliadau a syrpreisys.
Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu nawr, gyda nifer cyfyngedig ar gael am y pris cyntaf i’r felin o £205 i oedolion – unwaith bydd rhain i gyd wedi gwerthu, bydd modd prynu’r tocynnau cyffredinol am y pris cyffredinol o £235 i oedolyn. Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi na fydd unrhyw ffenestri prynu tocynnau yn dilyn hyn, felly dyma’r unig gyfle i sicrhau mynediad i’r ŵyl.
I’r rhai sy’n teimlo nad ydy penwythnos o gerddoriaeth yn ddigon, bydd modd prynu tocynnau ‘Sefydlwyr’ sy’n rhoi mynediad i’r safle o ddydd Llun 14 Awst, a mynediad cynnar i weithgarwch sy’n cynnwys gweithdai, cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth lleol, orielau, cestyll a mwy.