Tocynnau Gŵyl Llanuwchllyn ar werth

Mae trefnwyr Gŵyl Llanywchllyn ger Y Bala wedi cyhoedd bod tocynnau’r digwyddiad eleni bellach ar werth.

Cynhelir yr ŵyl ar ddydd Sadwrn 27 Awst eleni gyda lein-yp sy’n cynnwys Yws Gwynedd, Rhys Gwynfor, Ciwb a Sorela.

Mae’r tocynnau ar gael i’w prynu o garej Llanuwchllyn am £15 i oedolion a £5 i unrhyw un dan 16 oed – arian parod yn unig.