Tocynnau Sesiwn Fawr yn gwerthu’n gyflym

Wrth i’r ŵyl ddychwelyd i strydoedd Dolgellau eleni am y tro cyntaf ers 2019, mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cadarnhau fod holl docynnau penwythnos yr ŵyl bellach wedi eu gwerthu.

Mae’r ŵyl yn dathlu 30 mlynedd o fodolaeth eleni, a gan ymateb i’r galw mawr, mae’r trefnwyr wedi rhyddhau tocynnau ychwanegol ar gyfer gigs poblogaidd y Clwb Rygbi, ynghyd â chyngerdd unigryw yn Eglwys y Santes Fair i gloi’r ŵyl ar y nos Sul. 

Mae amserlenni llawn penwythnos yr ŵyl, sef 15-17 Gorffennaf, bellach i’w gweld ar wefan y digwyddiad, ac mae dathliadau tri degawd yr ŵyl yn cynnwys croesawu 54 band i berfformio ar draws 9 llwyfan yng nghanol tref Dolgellau, gan ddod â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth gwerin, roc a byd i’r dref. Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos ar brif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship mae Yws Gwynedd, Sŵnami, Tara Bandito, Skerryvore o’r Alban, N’famady Kouyaté o Guinea Gorllewin Affrica a The Trials of Cato.

Er bod y tocynnau penwythnos cynhwysfawr oll wedi eu gwerthu, gellir prynu tocyn ar gyfer dwy noson y Clwb Rygbi am £20 yn unig i fwynhau setiau gan rai o brif fandiau’r ŵyl sy’n cynnwys HMS Morris, Yr Eira, Eädyth, Mellt a Kim Hon.