Wrth i ni groesawu noson Calan Gaeaf, mae Pwdin Reis wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf sy’n berffaith ar gyfer nodi’r hen ddathliad Celtaidd.
‘Hei Mr Blaidd’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 28 Hydref, ar label Recordiau Rosser.
Mae’r sengl newydd yn gofyn y cwestiwn ‘Ydych chi dal ofn Mr Blaidd?’
Yn y degawdau a fu, y peth mwyaf arswydus yn y sinema oedd ffilmiau am y ‘werewolf’ sef person amheus oedd a’r gallu i newid mewn i flaidd brawychus adeg lleuad lawn.
Fel y byddai unrhyw un sy’n gyfarwydd â cherddoriaeth Pwdin Reis yn gwybod erbyn hyn, ymdrech tafod yn moch ar gân arswydus ydy hon gan y band hwyliog. Mae’r sengl newydd yn sôn am y ffaith fod storiâu arswyd am fleiddiau erbyn heddiw yn fwy tebygol o wneud i ni chwerthin yn hytrach na chuddio tu ôl i’r soffa.
Mae’r gan yn sôn am ‘warewolf’ sydd wedi cwympo ar gyfnod anodd druan, mae wedi bwrw’r botel ac mae ei bŵer i godi arswyd ar bawb adeg lleuad lawn wedi diflannu’n llwyr – “Ti ddim yn scary, ti jest yn hairy” yw’r llinell olaf yn y gân sy’n dweud y cyfan.
Pwdin Reis ydy’r band rockabilly o’r Gorllewin sy’n cynnwys talentau’r aelodau Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).
Mae’r band nôl yn canu mewn arddull rockabilly pur ar y gân yma. Mae’r fformiwla o osgoi technoleg ac efelychu sŵn egnïol a chyffrous y pumdegau yn dechrau cydio wrth i gigs byw gan y band greu tipyn o gynnwrf.