Trac newydd Blind Wilkie

Sengl gan Blind Wilkie McEnroe ydy’r ddiweddaraf i’w rhyddhau oddi-ar y casgliad i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed. 

‘Cont y Môr’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 25 Chwefror. 

Mae’n dilyn traciau o’r casgliad aml-gyfrannog sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan Candelas, Gwenno Morgan, Carcharorion a Glain Rhys dros yr wythnosau diwethaf

Ymestyn dathliadau’r deg

Roedd label Recordiau I KA CHING yn dathlu 10 blynedd ers ffurfio llynedd, ond bu’n rhaid dal nôl rhywfaint ar y dathliadau oherwydd y pandemig.

Y prif achlysur i nodi’r pen-blwydd  yn 2021 oedd  Gig y Pafiliwn rhithiol a gynhaliwyd ym mis Awst ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. 

Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, nid oedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad, felly mae’r label yn parhau gyda hynny eleni wrth ryddhau clamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label. 

Mae’r label yn rhyddhau un gân o’r casgliad bob wythnos nes dyddiad rhyddhau’r albwm ar 20 Mai, pan gyhoeddir yr un gân ar bymtheg ar feinyl ddwbwl sgleiniog.

Cont y Môr

Blind Wilkie McEnroe ydy prosiect cerddorol Carwyn Ginsberg o’r grwpiau Fennel Seeds a Hippies vs Ghosts, Dave Elwyn a Mike Pandy o’r grŵp HazyBee

Wedi iddynt chwarae mewn nifer o fandiau yn y gorffennol, daeth y triawd ynghŷd rhwng Wrecsam a Bangor i greu rhywbeth newydd, cyffrous. Ymunodd Si Brereton ar yr allweddellau ac offerynnau taro, ac Andrew Stokes ar y bas i alluogi sain fwy cyfoethog yn fyw, ac ymhen amser, yn y stiwdio.

Rhyddhaodd y band EP o’r enw ‘Ar Ddydd Fel Hyn’ yn 2018 ar label I KA CHING, a oedd yn gasgliad o draciau bachog, egnïol, seicadelig. 

Dechreuodd Carwyn ysgrifennu’r gân arbennig hon yn yr un cyfnod ag y cyfansoddodd yr EP. 

“Nes i sgwennu’r geiriau yn y stiwdio mewn pum munud,” meddai Carwyn. 

“Dwi ddim yn “lyricist” ac yn sicr yn trio cadw i ffwrdd o bynciau gwleidyddol, ond dros y blynyddoedd diwethaf dwi’n teimlo fel mod i wedi cael fy nghornelu.

“Dwi’n hoffi blodau ac adar ond mae cont y môr yn dyfalbarhau ar y funud. Ella un o’r dyddiau yma mi na i setlo ar y blodau a’r adar, ond am wan mae ’na lawer o ffeit a gelyniaeth ynddo fi eto.”