Mae un o grwpiau gwerin mwyaf Cymru, The Trials of Cato, newydd ddechrau taith hydref ledled Prydain wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm newydd.
Dechreuodd y daith yng Nghaerdydd ar nos Sul 9 Hydref a bydd y band o’r gogledd ddwyrain yn ymweld â threfi a dinasoedd sy’n cynnwys Sheffield, Rhydychen, New Milton, Barnstaple, Falmouth, Nottingham a Manceinion rhwng hyn a 18 Tachwedd.
Ar ôl eu taith lwyddiannus o theatrau Cymreig yn y Gwanwyn, mae’r mwyafrif o gigs y daith yma’n ymweld â lleoliadau yn Lloegr, ar wahân i’r gig agoriadol yng Nghaerdydd ac un gig arbennig yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, sef ardal leol y band, ar 19 Tachwedd.
Croeso i Wrecsam
Mae wedi, ac yn parhau i fod, yn gyfnod prysur i’r grŵp poblogaidd wrth i un o’u traciau wedi ei gynnwys yn y gyfres ddogfen ‘Welcome to Wrexham (FX)’ am glwb pêl-droed Wrecsam gan sêr Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds.
Mae disgwyl mawr hefyd am ail albwm y band, sydd i’w ryddhau ar 25 Tachwedd ond sydd ar gael i’w rag archebu bellach.
Enw’r albwm newydd ydy ‘Gog Magog’ ac mae wedi’i enwi ar ôl cawr mytholegol y chwedlau Arthuraidd a chopa yn Swydd Caergrawnt, lle cafodd y gerddoriaeth ei greu yn ystod y cyfnod clo.
Ffurfiwyd The Trials of Cato yn Beirut, Libanus yn 2017 ble roedd yr aelodau ar y pryd yn gweithio fel athrawon.
Llwyddodd y band i greu argraff mewn dim o dro ac enillodd eu halbwm cyntaf, ‘Hide and Hair’, wobr Albwm Werin y Flwyddyn BBC Radio 2 yn 2018.
Aelodau gwreiddiol y band oedd Tomos Williams, Will Addison a Robin Jones, ond gadawodd Will y grŵp yn ddiweddarach gyda’r offerynnydd a’r gantores aml-dalentog, Polly Bolton yn llenwi bwlch a adawyd ganddo yn 2020.
Er bod y triawd, sy’n perfformio yn y Gymraeg a Saesneg, wedi eu trwytho yng nghefndir cyfoethog cerddoriaeth draddodiadol mae synau’r albwm newydd yn ysgwyd y traddodiad hwnnw i greu rhywbeth hollol gyfoes a deniadol.
Cerddoriaeth newydd o’r diwedd
Fel cymaint o fandiau eraill, roedd cyfnod y pandemig yn un tawel i The Trials of Cato ond maent bellach yn falch o’r cyfle i gyflwyno cerddoriaeth newydd o’r diwedd.
Mae ‘Gog Magog’ yn ddilyniant i albwm cyntaf y band, ‘Hide and Hair’, ac mae’r aelodau wrth eu bodd bod eu trac offerynnol o’r albwm hwnnw, ‘Difyrrwch’ wedi ei ddefnyddio yn y gyfres ddogfen am glwb pêl-droed Wrecsam ‘Welcome to Wrexham (FX)’.
A hwythau’n dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, mae’r defnydd o gerddoriaeth The Trials of Cato ar y rhaglen yn briodol iawn.
Mae modd rhag archebu’r albwm newydd ar wefan The Trials of Cato nawr.
Dyma ‘Difyrrwch’: