Worldcub yn ‘ail-ymweld’ ar eu EP newydd

Mae EP newydd Worldcub allan ers dydd Gwener diwethaf, 4 Tachwedd. 

‘BTTB Cyfres 1’ ydy enw’r record fer pedwar trac newydd sydd allan ar label Recordiau Ratl. 

Mae BTTB Cyfres 1 EP yn gasgliad o draciau o EP cyntaf y band, sef ‘PartDepart’, sydd wedi cael eu hail-weithio a’u rhyddhau fel atodiad i’w halbwm newydd, ‘Back To The Beginning’,  sydd ar fin cael ei ryddhau. 

Rhyddhawyd ‘PartDepart’ yn 2015 pan oedd y grŵp yn cael ei hadnabod fel CaStLeS. Fe newidiwyd eu henw i Worldcub yn 2018. 

Worlcub ydy band y brodyr Cynyr a Dion Hamer, ynghyd ag Osian Land (sydd hefyd yn aelod o’r ddeuawd Dienw) ar y drymiau a Dion Wyn Jones (Alffa) ar y gitâr fas, y ddau wedi ymuno’n fwy diweddar.

Ar ôl cyfnod tawelach, maent wedi cael ail hanner prysur i 2022 gan ryddhau’r sengl ‘Torri’ ym mis Gorffennaf, ac yna’r sengl ddiweddaraf, ‘Look Through The Keyhole’ ym mis Hydref. Mae’r ddau drac yma’n ymddangos ar yr EP newydd. 

“Roedden ni’n gorffen ein albwm ‘Back To The Beginning’ a chael y syniad o wneud rhywbeth gyda cysyniad yr albwm” meddai Dion Hamer o’r band. 

“Daethom i fyny hefo’r syniad o fynd ‘yn ôl i ddechrau’r’ band ac ail-ymweld a recordio rhai traciau cynnar, gan ychwanegu rhai syniadau newydd yn y broses.”

Aiff Dion ymlaen i egluro bod gan hyd yn oed traciau’r EP thema adlewyrchol yn cydredeg. 

“Mae’r holl draciau yn cyd-fynd yn eithaf da â’r thema yma, yn enwedig ‘Time Slips Away So Suddenly’ a’n sengl fwyaf diweddar ‘Look Through The Keyhole’, mae’r trac hwnnw’n ymwneud ag ail-ymweliadau ac edrych drwodd i fywyd yn y gorffennol, dwi’n meddwl gall pobl uniaethu â’r cysyniad, ‘dani yn aml yn ail-ymweld â phethau, os yn gân neu ddarn o gelf, neu hyd yn oed sleisen o Pizza wedi’i hanner bwyta.”

Mae ‘BTTB Cyfres 1’ allan ar label Recordiau Ratl, ac mae disgwyl i’r albwm newydd, ‘Back To The Beginning’ ollwng yn gynnar yn 2023.