Y Cledrau ydy’r artist diweddaraf, ac olaf, i ryddhau sengl fel rhan o’r gyfres i nodi pen-blwydd Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp o ardal Y Bala, ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 13 Mai.
Mae Y Cledrau wedi bod yn un o grwpiau bywiocaf Cymru ers i gyfyngiadau Covid lacio, gan berfformio’n fyw ar bob cyfle posib.
Efallai nad ydy hynny’n syndod a hwythau wedi colli’r cyfle i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf, Cashews Blasus, yn eang mewn gigs ar ôl ei ryddhau yn ystod haf anodd 2021.
Er gwaethaf y diffyg cyfle i berfformio’r caneuon newydd yn fyw, mae traciau o’r albwm fel ‘Hei Be Sy’ a ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ yn barod wedi llwyddo i ennill eu plwyf, a daw ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ fel trac newydd sbon arall i ategu caneuon eu record hir ddiweddaraf.
“Roedd sgerbwd a geiriau ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ wedi ei ffurfio cyn ein halbwm cyntaf Peiriant Ateb yn 2017, ond fe gafodd hi ei chadw yng nghefn y drôr [yn drosiadol ac yn llythrennol], tan rŵan”, eglura Joseff Owen, prif leisydd a gitarydd Y Cledrau.
“Hon oedd un o’r traciau cyntaf i ni recordio wrth weithio ar ein hail albwm Cashews Blasus yn stiwdio Sain, ond erbyn i ni orffen yr albwm, roedden ni’n teimlo nad oedd hi’n cyd-fynd gyda naws gweddill yr albwm. Efallai bod ei chynnwys ar gasgliad fel hyn yn cyd-fynd gyda thema’r geiriau; myfyrdod ar fod ar wahân mewn un ffordd neu’r llall.
“Ymgais sydd yma i greu darlun o’r ofn a’r dryswch sy’n gallu cydio’n llawer rhy hawdd ar adegau, wrth i bopeth ymddangos fel petai nhw’n gwibio heibio, cyn i chi gael cyfle i wisgo’ch ‘sgidiau.
“Fe ddatblygodd hi’n drac trymach o ran sain na’r disgwyl wrth recordio; Arcade Clash oedd y ‘working title’, a gellir cyfeirio ati fel brechdan indi-roc y 00au ar fara o bync. Os am gadw at yr un trosiad, mae’n siŵr mai ofn dirfodol gorfeddyliwr yn ei arddegau ydi’r menyn, gyda salad o hunaniaeth a hiraeth ar yr ochr. Bwytewch a byddwch lawen!”
‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ ydy’r ddiweddaraf mewn cyfres o senglau sydd wedi’u ryddhau’n wythnosol ar label I KA CHING er mis Ionawr. Bydd y senglau i gyd, un ar bymtheg ohonynt, yn cael eu rhyddhau fel albwm ar record feinyl dwbl ar 20 Mai fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y label yn 10 oed.
I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl, mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ sydd i’w weld ar eu llwyfannau digidol. Nico Dafydd sydd wedi cyfarwyddo’r fideo sy’n serennu Dyddgu Glyn.