Prosiect newydd, ond byrhoedlog, tad a mab sy’n gyfrifol am un arall o’r don o senglau pêl-droed sy’n dechrau glanio wrth i Gwpan y Byd agosáu.
Y Southalls ydy enw’r ddeuawd Neil a Gwyn Rosser.
Mae Neil yn un o hoelion wyth y sin gerddoriaeth Gymraeg ers y 1980au, ac mae Gwyn yn aelod o’r band cyfoes Los Blancos. Mae’r ddau yn gefnogwyr brwd o CPD Abertawe, a’r tîm cenedlaethol.
Enw’r sengl newydd ydy ‘Ben Davies o Gastell Nedd’ ac mae allan yn swyddogol ar label Recordiau Rosser ar 2 Tachwedd.
Er i Neil ymuno gyda Los Blancos i berfformio un gân yn ystod Gig Mawr Aber 150 bythefnos yn ôl i ddathlu pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150, dyma’r tro cyntaf i’r ddau gyd-weithio’n swyddogol.
Mae’r gân yn deyrnged i’r gefnwr chwith, ac un o chwaraewyr pwysicaf Cymru, Ben Davies, sydd hefyd yn un o’r chwaraewyr mwyaf diymhongar. Mae’n ddathliad o’r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Quatar, ond hefyd bod Ben Davies yn dod o Gastell Nedd!
Mae’r llinell o’r gân – “Ben Davies fel y graig, yn falch o wisgo’r ddraig” yn gweud y cwbl.
Un gân sydd wedi ei recordio gan Y Southalls, ac yn ôl Neil mae’r band eisoes wedi chwalu o ganlyniad i ‘wahaniaethau cerddorol’.