Mae Ynys wedi rhyddhau sengl newydd gan gyhoeddi ar yr un pryd bod albwm cyntaf y band ar y ffordd yn fuan.
Ynys ydy prosiect newydd Dylan Hughes o Aberystwyth sy’n gyfarwydd wrth gwrs fel aelod o’r band Radio Luxemburg, a newidiodd eu henw’n ddiweddarach i Race Horses.
Mae Ynys wedi rhyddhau nifer o senglau ers ymddangos gyntaf, a’r diweddaraf o’r rhain ydy ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’ sydd allan ar label Recordiau Libertino.
Yn newyddion da pellach ydy bod albwm cyntaf Ynys ar y gweill, ac mai dyddiad rhyddhau hwn fydd 4 Tachwedd eleni.
Yn ôl y label, mae’r albwm yn cynnig palet sain uchelgeisiol sy’n teithio o bop pŵer Big Star i Beach House trwy gyfrwng tannau sinematig a syntheseisyddion disgo Italo 1981.
Symud nôl i Aber
Mae llawer o’r caneuon yn gysylltiedig â Hughes yn symud yn ôl i Aberystwyth o Gaerdydd; cartref o gartref, o’r ddinas i ardal wledig, y syniad o weithgaredd trefol ffyniannus, a llonyddwch tref enedigol glan môr.
“Symud ymlaen ond ceisio mynd yn ôl i rywle,” ydy eglurhad Dylan ac mae’r trac diweddaraf yn adlewyrchu hyn yn glir.
“Nôl yn eich tref enedigol, mae popeth yn teimlo’n wahanol ond hefyd yr un peth” meddai’r cerddor.
“Dwi’n meddwl mai dyma fy hoff gân oddi ar yr albwm. Trefniant llinynnol gan Gruff ab Arwel (Bitw/Y Niwl) wedi ei recordio yn Stiwdios Sain. Cafodd ei recordio’n fyw ac eithrio’r tannau, sydd â thipyn o naws T-Rex.”
Mae ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’ yn dilyn cyfres o senglau blaenorol gan Ynys gan gynnwys ‘Aros am Byth’ a ryddhawyd ym Mai 2020 ym mis Ebrill 2019, a ‘Mae’n Hawdd’ yng Ngorffennaf 2019.