Mae Ynys wedi bod yn artist bywiog iawn yn ddiweddar ac mae newydd ryddhau ei sengl ddiweddaraf label Recordiau Libertino.
‘Môr Du’ ydy enw’r trac newydd gan brosiect cerddorol diweddaraf Dylan Hughes, gynt o’r Race Horses a Radio Luxemburg ac fe ddaw’n dynn ar sodlau ei sengl ddiwethaf, ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’, a ryddhawyd rhyw fis yn ôl.
Mae’r ddwy sengl ddiweddaraf yma’n dameidiau pellach i aros pryd nes rhyddhau albwm cyntaf Ynys fydd allan ar 4 Tachwedd.
Mae llawer o ganeuon yr albwm yn ymwneud â Dylan yn symud yn ôl i ardal ei fagwraeth yn Aberystwyth ar ôl byw yng Nghaerdydd am sawl blwyddyn, ac mae hynny’n wir am y sengl newydd.
“Mae’n dipyn o ystrydeb yndyw e, eich dymuno i ffwrdd o’r ddinas, yn ôl at lan y môr” meddai Dylan am y sengl ddiweddaraf.
“Mae’n debyg bod ‘Môr Du’ yn ymwneud â theimlo bod rhan ohonoch chi ar goll; am symud ymlaen ac ailgysylltu.
“Dechreuodd fel cân eithaf stripped back ond dros y clo byddwn yn dychwelyd at y gân, yn ychwanegu rhywbeth, yn tynnu rhywbeth allan – erbyn y diwedd roedd wedi tyfu i fod yn gân sinematig eithaf gwallgof. Sai’n siwr sut nath e orffen lan fel’na ond dwi’n falch fod e wedi.”
Mae albwm unigol cyntaf Ynys yn un beiddgar, gyda phalet sain uchelgeisiol yr albwm yn teithio o bop pŵer Big Star i Beach House, yn llawn tannau sinematig a syntheseisyddion disgo Italo’r 80au gyda geiriau Cymraeg a Saesneg.
Dyma fersiwn o ‘Môr Du’ a wnaed ar gyfer rhaglen Curadur gwpl o flynyddoedd yn ôl: