Sengl gan Yr Eira ydy’r ddiweddaraf i’w rhyddhau fel rhan o gyfres i ddathlu pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Enw’r sengl newydd ydy ‘Canu Gwlad’ ac fe’i rhyddhawyd yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 18 Mawrth.
Yr Eira ydy Lewys Wyn (llais/gitâr), Trystan Thomas (bass), Guto Howells (Dryms) ac Ifan Davies (llais/gitâr/synth) ac maen nhw wedi sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau Cymru ers peth amser bellach.
Byth ers rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Elin’, hyd at gynnyrch eu halbwm diweddaraf, ‘Map Meddwl’, mae’r grŵp yn adnabyddus am gyfansoddi caneuon bachog, ‘pryfid clust’.
Cân am rwystredigaethau
Yn wahanol i hits pop ffyzi sengl amlycaf eu halbwm, ‘Pob Nos’, mae eu sengl newydd ‘Canu Gwlad’ yn llawer mwy hamddenol gydag alawon lleisiol a synth sy’n anadlu’n araf.
“Mi recordiodd pawb ei ddarn adra, ac yna fe rois i bopeth at ei gilydd” meddai Lewys Wyn, prif ganwr Yr Eira am y trac newydd.
“Mae’r gân ei hun am gyfres o rwystredigaethau neu siomedigaethau bach – a’r syniad o ddianc rhag popeth drwy wrando ar ganu gwlad er mwyn ymlacio a dianc o’r rhwystredigaethau bach yna!”
Diweddaraf o gyfres
Dyma’r trac diweddaraf o’r gyfres gan artistiaid I KA CHING sydd wedi bod yn cael eu rhyddhau’n wythnosol ers diwedd Ionawr. Mae’n dilyn senglau gan Candelas, Gwenno Morgan, Carcharorion, Glain Rhys, Blind Wilkie McEnroe, Ffracas a Blodau Papur.
Bydd y senglau i gyd yn cael eu rhyddhau ar record feinyl aml-gyfrannog arbennig sydd allan ar 20 Mai.
Roedd I KA CHING yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed yn 2021 ond bu’n rhaid cyfyngu rhywfaint ar y dathlu oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.
Er i’r dathliad ddechrau gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, gyda rhai o artistiaid y label yn perfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops, roedd y label yn awyddus i barhau i nodi’r achlysur eleni.