Ystyr i ryddhau albwm cyntaf

Bydd y grŵp Ystyr yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ddydd Gwener yma, 24 Mehefin. 

‘Byd Heb (Ystyr)’ ydy enw record hir gyntaf y grŵp a ddechreuodd ryddhau cerddoriaeth yn ddigidol ar Bandcamp yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020.  

Mae’r albwm, sy’n cael ei ryddhau’n annibynnol gan y grŵp ar eu label Curiadau Ystyr, yn cynnwys holl ganeuon y band unigryw yma a ryddhawyd dros y ddwy flynedd hynod ddiwethaf. 

Dros y cyfnod hwn, mae pawb wedi profi gofid, trawma, tristwch, gobaith, ac amser i ailystyried eu bywydau. Fe geisiodd y grŵp ymdrin â’r heriau dyrys yma drwy ailymafael â cherddoriaeth am y tro cyntaf mewn blynyddoedd, ar gyfer iechyd meddyliol eu hunain yn anad dim. 

Felly yn y bôn, therapi cathartig yr aelodau Owain Brady, Rhys Martin, Rhodri Owen, a Pete Cass yn ei gyfanrwydd ydy ‘Byd Heb (Ystyr)’, a hynny’n glywedol trwy’r caneuon, ac yn weledol gyda’r gwaith celf sy’n ganolog i’w cynnyrch.

Prif thema y casgliad ydi ymdrechion pobl arferol i lywio drwy fywyd mewn byd sydd heb ystyr, gan dynnu ar y cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’n marwoldeb ers ddechrau’r pandemig. 

Mae’n anodd iawn ganfod llwybr bodlon ar draws y blynyddoedd, yn enwedig yn ein byd modern cymhleth, a dyma beth mae’r caneuon a’r celf yn ceisio mynegi. 

O R&B tywyll ‘Disgwyl am yr Haf’, i orffwyll trydanol ‘Y Clô’; cerddorfa melancoli ‘Teimlad Hydrefol’ i guriad gobeithiol ‘Adferiad’; hapusrwydd cyffrous ‘Tyrd a dy Gariad’ i fwriad gorfoleddus ‘Brif y Copa’; dyma albwm sy’n wir ceisio gwireddu ei bwrpas i ddarparu corff o waith celf  sy’n perthyn i’w hun, ac i’r rheiny sy’n gwrando.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar y llwyfannau digidol arferol, ond bydd nifer cyfyngedig o gopïau hefyd ar gael ar ffurf CD.