Ystyr ydy’r band diweddaraf i ymuno â lori lwyddiant tîm pêl-droed dynion Cymru trwy ryddhau sengl i gefnogi ymgyrch y tîm yng Nghwpan y Byd Qatar.
‘Harlech 2022’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp amgen sydd allan ers 18 Tachwedd.
Bydd unrhyw un sydd wedi dilyn pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd yn ymwybodol iawn o’r defnydd o’r hen gân Gymreig ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’ gan gefnogwyr y tîm cenedlaethol yn ystod gemau rhyngwladol.
Fe mae’r enw’n awgrymu, fersiwn newydd o hon ydy’r sengl newydd gan Ystyr ac mae’r band yn cyfaddef heb unrhyw gywilydd eu bod wedi “neidio ar fandwagon pêl-droed Cymru!”
A hwythau, fel pawb arall, wedi dioddef sawl torcalon gydag ymdrechion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn y gorffennol, mae’r band yn gofyn i bobl faddau iddynt am hynny wrth ryddhau’r fersiwn newydd o un o ffefrynnau cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru.
“Mwynhewch y slaban wirion yma o hwyl, ac i’r gad!” meddent.
Ystyr ydy’r prosiect sy’n cyfuno doniau gitarydd y grŵp Plant Duw, Rhys Martin; ei gefnder, Owain Brady; Rhodri Owen, gynt o Cyrion a Yucatan; a’r artist celf gweledol, Pete Cass.
A hwythau wedi bod yn arbrofi’n gerddorol gyda’i gilydd ers blynyddoedd, penderfynodd Rhys ac Owain ffurfio Ystyr ar ddechrau 2020, ac maent wedi rhyddhau cyfres o draciau’n rheolaidd ers hynny er nad ydyn nhw wedi perfformio’n fyw fel band eto.
Bu i’r grŵp ryddhau nifer o senglau yn ystod 2020 a hanner cyntaf 2021, gan gynnwys traciau ar y cyd gyda Teleri a Mr Phormula. Ym mis Mehefin eleni bu iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘Byd Heb (Ystyr)’.