Mae’r grŵp Ystyr wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener 27 Mai.
‘Pysgod’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp arbrofol sydd wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth yn weddol rheolaidd ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf.
Ystyr ydy’r prosiect sy’n cyfuno doniau gitarydd y grŵp Plant Duw, Rhys Martin; ei gefnder, Owain Brady; Rhodri Owen, gynt o Cyrion a Yucatan; a’r artist celf gweledol, Pete Cass.
A hwythau wedi bod yn arbrofi’n gerddorol gyda’i gilydd ers blynyddoedd, penderfynodd Rhys ac Owain ffurfio Ystyr ar ddechrau 2020, ac maent wedi rhyddhau cyfres o draciau’n rheolaidd ers hynny er nad ydyn nhw wedi perfformio’n fyw fel band eto.
Bu i’r grŵp ryddhau nifer o senglau yn ystod 2020 a hanner cyntaf 2021, gan gynnwys traciau ar y cyd gyda Teleri a Mr Phormula. Er hynny, ‘Pysgod’ ydy ei cynnyrch cyntaf ers rhyddhau’r sengl ‘Tyrd a Dy Gariad’ yn Awst 2021.
Mae ‘Pysgod’ yn cael ei disgrifio fel cân serch o’r dyfroedd tywyll sy’n dychwelyd o waelodion y môr a gwneud beth sy’n gyfarwydd.
Gan dynnu ar abswrdiaeth y bydysawd sy’n gwrthgyferbynnu gyda greddf dynol ryw i roi rhyw fath o ddiben i’n bodolaeth, mae’r haenau breuddwydiol, rhamantus a tywyll yn cael eu goleuo gan fflachiau amryliw o offeryniaeth, sy’n cymryd dau gariad ar daith tragwyddol drwy’r gofod, o bosib ar ôl byw, neu o bosib yn eu breuddwydion. Pwy a ŵyr?
Ysbrydolwyd y gân gan y môr eang sy’n rhan o’n bywydau fel Cymry ar ymylon ein gwlad, ac yn enwedig gan ein profiadau yn nofio ac yn snorclo yn y dyfroedd o amgylch Ynys Môn drwy gydol y flwyddyn, beth bynnag y tywydd!