Mae Recordiau Sain wedi rhyddhau ugain o recordiau is-label y cwmni, Crai, ar y prif lwyfannau digidol am y tro cyntaf.
Mae Sain ers peth amser wedi cychwyn ar y gwaith gwerthfawr o ddigido archif gerddorol y label. Eisoes, ail-ryddhawyd sawl albwm eiconig, gan gynnwys cynnyrch gan rai o artistiaid amlycaf Cymru dros yr hanner can mlynedd dwythaf, a’r bwriad yw tyrchu ymhellach i’r ôl-gatalog ac ail-ryddhau rhagor o berlau’r gorffennol.
Sefydlwyd is-label Crai gan Sain yn 1988, er mwyn rhoi cartref i gerddoriaeth mwy amgen gan fandiau ifanc a oedd yn britho’r sîn bop Gymraeg ar y pryd.
Rhyddhawyd cerddoriaeth ar Crai gan amrywiaeth eang o artistiaid gan gynnwys artistiaid ifanc, newydd, ac hefyd enwau amlwg fel Catatonia, Big Leaves, Yr Anhrefn a Topper. Bu Crai ar flaen y gâd yn gweithio gyda cherddorion o bob cwr o Gymru a bellach mae cyfle i wrando eto ar y recordiadau cyntaf a ryddhawyd ar y label rhwng 1989 a 1993, sy’n cynnwys 14 albwm a 4 EP.
Dyma’r teitlau sydd wedi’u cyhoeddi ar y platfformau digidol am y tro cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 20 Hydref:
CRAI 1 – Y CYNGHORWYR ‘Ffidlan’
CRAI 2 – CWRW BACH ‘Tameidiau’
CRAI 3 – AMDDIFFYN ‘Pob Chwe Eiliad’
CRAI 4 – JECSYN FFEIF ‘Annibyniaeth Barn’
CRAI 5 – BOB DELYN A’R EBILLION ‘Sgwarnogod Bach Bob’
CRAI 6 – EV ‘Shamani’
CRAI 7 – GWRTHEYRN ‘Sych ar y Sul’
CRAI 8 – ANHREFN ‘Rhedeg i Paris’
CRAI 9 – HEFIN HUWS ‘Cae Chwarae’
CRAI 11 – BOB DELYN A’R EBILLION ‘Bob Dolig’
CRAI 12 – ANHREFN ‘Dial y Ddraig’
CRAI 13 – U THANT ‘Duw Uwd’
CRAI 14 – ALARM ‘Tân
CRAI 15 – COFI ROC
CRAI 16 – HEFIN HUWS ‘Cicio’n Ôl’
CRAI 17 – TIR CYFFREDIN ‘Celfyddyd Ddigyfaddawd’
CRAI 18 – Y CYNGHORWYR ‘Insylt i’r Intelijyns’
CRAI 19 – GERAINT LOVGREEN ‘Be Ddigwyddodd i Bulgaria?’
CRAI 20 – HANNER PEI ‘Vibroslap’
Mwy am y recordiau
Y teitl cyntaf i’w ryddhau ar label Crai oedd albwm Y Cynghorwyr, ‘Ffidlan’, grŵp hwyliog o ardal y Felinheli a Chaernarfon a ffurfiwyd o weddillion grŵp chwedlonol Y Ficar, a grŵp a oedd yn benderfynol o gael amser da ar y llwyfan a rhoi amser gwell byth i’r gynulleidfa.
Dilynwyd Crai 1 yn sydyn gan yr ail deitl, albwm gan griw arall hwyliog, Cwrw Bach. Roedd Amddiffyn yn grŵp roc trwm o ardal Caernarfon tra bod Jecsyn Ffeif o ardal Bethesda, a’u halbwm ‘Annibyniaeth Barn’, yn rhoi blas newydd i glustiau’r Cymry o gerddoriaeth arbrofol a oedd yn gyfuniad o bop a reggae yr 80au hwyr a llais unigryw Gareth Siôn yn serennu.
Erbyn 1990 roedd y clerwr a’r bardd-delynor Twm Morys wedi hen ffurfio’r grŵp gwerin arloesol Bob Delyn a’r Ebillion a daeth eu halbwm cyntaf, ‘Sgwarnogod Bach Bob’, allan ar Crai, gan roi cyfeiriad newydd cyffrous, eto i’r label. Grŵp roc o Lydaw oedd EV, a wnaeth gysylltiadau yng Nghymru a rhyddhau caneuon yn Llydaweg ar Crai, tra bod y grŵp Gwrtheyrn, o Ben Llŷn, yn canu am dafarndai’r ardal, a oedd ar gau ar y Sul yn y cyfnod hwnnw.
Mr Mwyn a Hefin Huws
Un o brif grwpiau’r 80au yng Nghymru oedd Yr Anhrefn, a’r ddau frawd, Rhys Mwyn a Sion Sebon, wedi arloesi yn y sîn ers sawl blwyddyn cyn hynny. Wedi sefydlu eu label eu hunain a rhyddhau eu cerddoriaeth yn annibynol i gychwyn daeth yr enwog ‘Rhedeg i Paris’ allan ar Crai yn 1990. Dyna ddechrau perthynas agos rhwng Crai a Rhys Mwyn gan i Rhys, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ddod yn reolwr ar y label am gyfnod a rhyddhawyd rhagor o gerddoriaeth Yr Anhrefn ar Crai, gan gynnwys eu prosiect cerddorol ‘Hen Wlad Fy Mamau’.
Daeth Hefin Huws i amlygrwydd fel canwr Maffia Mr Huws a Llwybr Cyhoeddus ac hefyd fel artist unigol. Gyda’i lais llawn angerdd a chaneuon sy’n aros yn y cof, fel ‘Chwysu’n Oer’ a ‘Cariad Dros Chwant’, rhyddhaodd ddau albwm ar Crai, ‘Cae Chwarae’ yn 1990 a ‘Cicio’n Ôl’ yn 1991.
Un o grwpiau’r brifddinas oedd U Thant a chlywyd eu recordiad cyntaf ar Crai yn 1991, ‘Duw Uwd’. Ffurfiwyd y grŵp yn Ysgol Glantaf a daeth eu cerddoriaeth pync, bywiog, a’u perfformiadau byw carismataidd yn boblogaidd ar draws Cymru, a buont yn sicr yn ddylanwad ar sawl grŵp ifanc, cyffrous, a oedd yn codi yng Nghaerdydd ar y pryd, yn eu plith Crumblowers, Edrych am Julia a Hanner Pei.
Yn yr 80au roedd y grŵp The Alarm, yn cael eu harwain gan y cerddor o’r Rhyl, Mike Peters, wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ers ei ffurfio yn 1981 a rhyddhawyd ‘Tân’, un o’u hychydig recordiadau Cymraeg, ar Crai yn 1991, a ddaeth â chynulleidfa newydd eto i’r grŵp.
Cofi Roc ar Crai
Yn ardal Caernarfon ddechrau’r 90au roedd tipyn o weithgaredd o ran y sîn gerddoriaeth Gymraeg a grwpiau fel Beganifs, Aros Mae, Caffi Vadassi ac Addewid yn cael cyfle i recordio, rhyddhau a rhannu eu cerddoriaeth am y tro cyntaf ar y casgliad aml-gyfrannog ‘Cofi Roc’, casgliad sy’n ddathliad o frwdfrydedd cerddorol pobl ifanc ardal label Crai a Sain yn y cyfnod.
Un o’r albyms sy’n adleisio seiniau gitârs a synths nodweddiadol yr 80au yw ‘Celfyddyd Ddigyfaddawd’ gan Tir Cyffredin, ac wedi rhyddhau dau albwm ar label Sain ganol yr 80au cafodd y canwr-gyfansoddwr Geraint Lovgreen hefyd gartref ar Crai am gyfnod byr gyda’i albwm ‘Be Ddigwyddodd i Bulgaria?’, albwm yn cynnwys clasuron fel ‘Stella ar y Glaw’ a ‘Yr Hen Leuad Felen a Fi’.
Yr olaf o gynnyrch Crai am y tro yw albwm y grŵp ffync o Gaerdydd, Hanner Pei. Wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, ‘Locsyn’, eu hunain, yn 1990, yna’r EP ‘Boom-Shaka-Boom-Tang’, daeth yr albwm ‘Vibroslap’ ar Crai yn 1992, albwm sydd dal yn glasur hyd heddiw gyda ‘Ffynciwch o’ma’ yn sicr yn un o’r anthemau ffync mwyaf epig erioed!
Am y tro cyntaf, felly, bydd cyfoeth ac amrywiaeth cynnyrch cyntaf Crai, sy’n ddrych o ran o sîn gerddoriaeth eclectig cyfnod cerddorol difyr diwedd yr 80au a dechrau’r 90au yng Nghymru, i’w gweld a’u clywed ar y platfformau digidol, ac mae llawer mwy o gerddoriaeth dda a diddorol ar y ffordd yn ôl Sain.
Dyma’r ardderchog ‘Cariad Dros Chwant’ gan Hefin Huws:
Llun: Clawr albwm Cofi Roc