Owain Davies yn creu Gwobrau’r Selar 2022

Dros y blynyddoedd mae Y Selar wedi bod yn falch iawn o roi cyfle i artistiaid ifanc greu’r gwaith celf ar gyfer ein gwobrau cerddorol blynyddol.

Rydym wedi gweithio’n rheolaidd gyda Choleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant gan ddewis myfyriwr o’r Coleg i greu’r darnau celf unigryw, a dyna oedd yr hanes unwaith eto eleni gyda Gwobrau’r Selar.

Eleni, myfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs BA Dylunio Graffeg o’r enw Owain Davies oedd yn gyfrifol am greu’r gwobrau, gan arddangos ei allu creadigol wrth wneud hynny. Ac mae’n ymddangos ei fod yn foi perffaith ar gyfer y job.

Mae gan Owain diddordeb mawr mewn cerddoriaeth a’r cyswllt rhwng cerddoriaeth a phatrwm a’r effaith corfforol a gweledol yn ogystal â’r cyswllt hanesyddol gyda chelf.  Mae diddordeb mawr ganddo mewn dylunio posteri, cloriau recordiau a thaflenni cerddoriaeth.

Lisa Gwilym yn derbyn ei gwobr gan Rhys Mwyn

Dylanwad cerddoriaeth arnom

Gan fod Owain yn astudio dylunio graffeg roedd yn bwysig bod y gwobrau’n cyfleu ei allu ef fel dylunydd a’i diddordeb mewn cerddoriaeth.

“Tyfodd dyluniad gwobrau’r Selar allan o fy mhrosiect blwyddyn 3″ eglura Owain.

Gwobr Fideo Gorau 2022 sydd ar y ffordd i Tara Bandito

“Mae diddordeb gen i yn sut mae gwahanol fathau o gerddoriaeth yn cael dylanwad arnom. Gweithiais gyda grŵp o gyfranogwyr mewn sesiwn lle cawsant y cyfle i ymateb yn gorfforol ac yn weledol i gerddoriaeth gan ddefnyddio inc ar bapur, wrth glywed un esiampl o un genre ar y tro.

“I greu’r gwobrau eu hunain, defnyddiais y gweithiau grŵp fel man cychwyn ac ychwanegu lliw yn lle’r marciau du a gwyn eto wrth ymateb i’r gwahanol fathau o gerddoriaeth.

“Roedd yn broses ddiddorol i ddatblygu’r syniadau gwreiddiol i fod yn ddyluniad graffeg. Fel dylunydd graffeg mae defnyddio geiriau yn hynod o bwysig ar gyfer cyfathrebu’n weledol, felly gwnes chwarae o gwmpas gyda theip a sut i’w gosod o fewn y dyluniad. Gwnes greu pob un wobr yn unigryw.”

 

Donna Williams yw Cyfarwyddwr Rhaglen ac uwch ddarlithydd y cyrsiau dylunio graffeg yn y brifysgol ac mae’n falch iawn o’r cyfle i’r brifysgol gydweithio gyda’r Selar unwaith eto.

“Ar hyn o bryd mae Owain Davies yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ar ein cwrs BA (Anrh) Dylunio Graffeg yng Ngholeg Celf Abertawe” meddai Donna.

“Rydym wrth ein bodd ei fod wedi cael y cyfle i ddylunio a chynhyrchu’r gwobrau ar gyfer ‘Y Selar’.

Mae Owain wedi parhau i ymgysylltu o fewn ei agwedd broffesiynol at ei astudiaethau ac integreiddio prosiectau allanol o fewn ei raglen radd. Mae Owain bob amser yn bleser gweithio, gan ei fod yn berchen ar foeseg waith gref a dibynadwy gyda chanlyniadau dylunio ystyrlon.  Llongyfarchiadau Owain ar jobyn ardderchog.”

Datblygu portffolio

 

Gwobr Record Hir Orau – yr enillydd oedd Seren gan Angharad Rhiannon

Gwenllian Beynon ydy prif gyswllt Y Selar yn y Brifysgol – mae wastad yn gefnogol iawn i’r gwaith rydym yn ei wneud yma yn Y Selar, ac yn ffan mawr o gerddoriaeth gyfoes, ac yn deall ethos Y Selar. Mae Gwenllian yn Gyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Celf a’r Cyfryngau ac yn gydlynydd y ddarpariaeth Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant.

“Bob blwyddyn rwyf yn cael llawer o hwyl yn gweithio gyda myfyrwyr wrth greu gwobrau’r Selar” meddai Gwenllian.

“Weithiau mae’n anodd i fyfyrwyr gweld sut gall y wobr fod yn bersonol ac yn driw i’w gwaith nhw ond hefyd bod yn wobr i rywun arall. Ond bob blwyddyn mae’n digwydd.

Mae wedi bod yn wych gweithio gydag Owain eleni a gweld y wobr yn datblygu trwy’r gwahanol brosesau a chamau datblygu. Mae creu gwobr o’r fath unigryw yma yn galluogi i fyfyrwyr ddatblygu llwyth o waith i’w portffolios ac felly ni’n ddiolchgar i’r Selar unwaith eto am y cydweithrediad yma.”

Hoffai’r Selar ddiolch o galon i Owain a Gwenllian am y cyfle i gydweithio eleni, ac am y darnau celf hyfryd ac unigryw sy’n cael eu cyflwyno i enillwyr Gwobrau’r Selar. Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Dylunio Graffeg Prifysgol y Drindod Dewi Sant, yna gallwch ganfod mwy o wybodaeth ar eu gwefan.

Owain Davies gyda’r waith celf Gwobrau’r Selar unigryw