Mae label Recordiau Côsh wedi cyhoeddi bod y band o’r Felinheli, Achlysurol, wedi ymuno â stabal y label.
Wrth wneud hynny, maent hefyd wedi rhyddhau sengl newydd gan y band sydd allan ers dydd Gwener diwethaf 13 Hydref.
‘Cei Felinheli’ ydy enw’r trac ac mae fersiwn gan y grŵp o gân eiconig y band Ficar o’r 1980au.
Bydd caneuon gwreiddiol i ddod gan y band ar Côsh yn y dyfodol agos meddent, ond yn y cyfamser, dyma gyfle i glywed cyfyr ganddyn nhw i gefnogi ymgyrch Menter Felinheli wrth iddyn nhw drio codi arian i brynu’r marina yn y pentref.
Mae’r brodyr, Ifan ac Aled Emyr, wedi eu magu yn y pentre’ a’u tad, Emyr Roberts oedd un o’r rhai oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r gân wreiddiol pan yr oedd yn aelod o Ficar.
Cyn hyn roedd Achlysurol ar label recordiau Jigcal, a bu iddynt ryddhau’r albwm ‘Rhywle Pell’ ym mis Mai eleni ar y label hwnnw. Cyn hynny cafwyd cyfres o senglau sydd wedi sefydlu Achlysurol fel un o’r artistiaid hynny sy’n toddi eu hunain i mewn i’ch isymwybod yn raddol.
Yn ddiweddar, rhyddhaodd y band fideo newydd i’r gân ‘Dŵr i’r Blodau’ gan ddefnyddio arian nawdd o gronfa fideos cerddorol Lŵp x PYST, ac mae modd gweld hwn ar wefan https://amam.cymru
Dyma’r sengl newydd: